
Arfer da > Trosolwg
Ymchwiliad siâp 3-D
Mae’r uned hon wedi’i llunio o dri gweithgaredd rhyngweithiol yn canolbwyntio ar briodweddau siapiau 3-D.
Mae’r gweithgaredd cyntaf yn seiliedig ar ddamcaniaeth Euler, ac mae’n rhaid i’r disgyblion ddarganfod rheol sydd yn cysylltu’r wynebau, yr ochrau a’r fertigau â’i gilydd. Mae’r gweithgaredd rhyngweithiol yn caniatáu iddynt drin y siapiau ar y sgrin i gyfrif yr wynebau, yr ymylon a’r fertigau.
Mae’r ail weithgaredd yn gofyn iddynt ddefnyddio’u gwybodaeth am briodweddau siapiau 3D i lunio cadwyn bolyhedrol.
Mae’r drydydd gweithgaredd yn caniatáu i’r disgyblion ymchwilio pa ymylon wnaiff gyfarfod pan mae rhwyd yn plygu i greu siâp 3D.