#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Ymchwiliad siâp 3-D

Ymchwiliad siâp 3-D

Prif Ffocysau: Sgiliau Rhifedd, Trosglwyddo,
Ffocysau Pellach: DMaAGD, Cyflawniad Bechgyn, Dysgu wedi’i Bersonoli, Arfer myfyriol, Dysgu Estynedig, Mwy galluog a thalentog,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd y prosiect hwn fel rhan o gynllun pontio cytunedig rhwng sectorau..  

Anogwyd yr athrawes gan Swyddog Maes GCaD Cymru i edrych ar yr uned wreiddiol a’i haddasu i gyd-fynd â gallu’r dosbarth a’r athrawes.  Byddai hefyd yn cyd-fynd ag amcanion ADCDF yr oedd yr ysgol gyfan yn cymryd rhan ynddo.

Cyflwynwyd y prosiect am y tro cyntaf mewn cwrs HMS gan ymgynghorydd mathemateg yr AALl a Swyddog Datblygu GCaD.  Y bwriad oedd defnyddio’r prosiect 3D fel rhan o brosiect pontio mathemateg mwy ac roedd i gael ei wneud gan bob ysgol gynradd ac uwchradd yn yr Awdurdod.  Mae gan yr ysgol Fwrdd Gwyn yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau felly awgrymodd y Swyddog Datblygu ddefnyddio dull dysgu cymysg i gyflwyno’r rhan arbennig yma o’r prosiect.  Gwnaed y cynllunio o strwythur gwreiddiol yr adnodd sy’n defnyddio dull trefnus o wneud gwaith ymchwilio.  Yna addaswyd yr adnodd a’r cynllunio i gyd-fynd â nodau ac amcanion yr ysgol gyfan a hefyd i fapio’r gwaith yn erbyn y fframwaith sgiliau newydd.

Effaith a Chanlyniad

  • Roedd y gweithgareddau hyn yn rhoi digonedd o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau rhifedd y disgyblion.  Mi wnes i fwynhau eu gwylio yn cymhwyso eu gwybodaeth i ddatrys y problemau mewn modd rhesymegol.
  • Roedd natur y gweithgareddau a’r dulliau o grwpio’r disgyblion yn gymorth i hybu eu sgiliau meddwl ac roedd y drafodaeth mewn parau ac yn y grwp yn gymorth iddynt ddeall y cysyniadau mathemategol o fewn y gwaith.
  • Bu gwelliant mewn cyflawniad o ran y bechgyn sydd yn dueddol i roi’r gorau iddi wrth wneud gwaith ar bapur.  Oherwydd natur ryngweithiol y gwaith bu iddynt ymateb yn dda i’r her yn enwedig gyda’r gweithgaredd bêl droed a ychwanegwyd at y diwedd gennym.
  • Mae natur y gweithgareddau yn caniatáu i ddisgyblion gyrraedd eu lefel eu hunain ac yn arwain at ddysgu personol.
  • Roedd cyfleoedd ar gyfer gwaith ymestynnol ar gyfer y disgyblion mwyaf galluog wrth weithio ar yr un cysyniadau a gweddill y dosbarth.
  • Gan fod y gweithgaredd ar-lein mae modd i’r disgyblion gyrchu gwaith ar adegau y tu hwnt i’r dysgu ffurfiol mae’n gyfle i ymddiddori'r rhieni yn y gwaith.  Roedd nifer o rieni wedi mwynhau'r gweithgaredd gadwyn.

Wedi i’r disgyblion lenwi’r cynllun ar ddechrau’r gweithgaredd roedd modd eu hatal a gofyn iddynt adfyfyrio ar eu dulliau ac ystyried a oeddynt yn  effeithiol.

Adborth gan y Dysgwr

Roeddwn yn hoffi’r gwaith pêl droed - roedd yn dda defnyddio beth yr oeddwn wedi i ddysgu i weithio allan faint y dylai’r bachgen gael ei dalu.

Adnoddau Eraill

Rhwydi o siapiau 3d, pêl droed, Gweithgareddau Smart Notebook.

Gwersi a Ddysgwyd

Roeddwn yn hoffi trefn a strwythur yr unedau oedd yn golygu bod y disgyblion yn gwneud yr ymchwiliad yn drefnus ac yn rhesymegol.  Rhoddodd yr uned hyder imi wrth wneud y math yma o waith.