
Yr Ail Ryfel Byd
Ffocysau Pellach: DMaAGD, Cwricwlwm Cymreig , Dwyieithrwydd, Arfer myfyriol, Dysgu Estynedig,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiwyd rhan o’r adnodd ‘Yr Ail Ryfel Byd - Ymdriniaeth Thematig’ er mwyn astudio Dogni Bwyd. Dilynwyd sawl trywydd er mwyn ysgogi’r plant i feddwl pa fwydydd oedd yn cael eu dogni.
Rhoddwyd ‘Grid Meddwl’ i’r disgyblion i nodi’r hyn roedden nhw’n ei wybod yn barod am ddogni bwyd adeg y rhyfel. Wedi rhannu’r wybodaeth hyn gyda’r dosbarth aethon nhw ymlaen i nodi cwestiynau am yr hyn fydden nhw eisiau ei wybod ymhellach am ddogni bwyd.
Gofynnwyd i’r disgyblion nodi’r bwydydd maen nhw’n eu prynu’n wythnosol yn yr archfarchnad ar restr siopa.
Defnyddiwyd y Pwerbwynt o’r adnodd i annog y plant i feddwl pa fwydydd oedd yn cael eu dogni.
Cyflwynwyd y plât iach er mwyn i’r disgyblion sylwi ar ba ran o’r plât fydden nhw’n rhoi’r bwyddydd wedi eu dogni. Trafodwyd pam fod llysiau a ffrwythau heb eu dogni.
Trafod eu rhestr siopa ochr yn ochr â’r bwydydd oedd wedi eu dogni.
Tasgau gwahaniaethol:
1. Edrych ar dystiolaeth o’r cyfnod ar ffurf llyfr dogni digidol a lluniau o’r we o siopau bwyd y cyfnod. Anogwyd y plant i ofyn cwestiynau pwrpasol i ddarganfod mwy am ddogni bwyd
2. Gwneud ymchwil annibynnol ar y cyfrifiaduron ac mewn cyfeirlyfrau i ddod o hyd i’r ateb i’r cwestiwn hwn: Pam ydych chi’n meddwl bod y bwydydd hyn wedi eu dewis? Gofynnwyd iddynt ddarganfod ble roedd bwydydd eu tyfu yn y 30au a’r 40au?
3. Gwrando ar fideo o brofiad plentyn o ddogni bwyd. Casglu syniadau a’u cofnodi wrth wrando ar y fideo.
Cwblhawyd y grid meddwl cychwynol a’i drafod.
Effaith a Chanlyniad
Datblygu sgiliau llythrennedd yn naturiol ac annibynnol wrth chwilio am wybodaeth. Sgiliau cyfathrebu’n cael eu datblygu wrth wrando a thrafod syniadau. Tasgau annibynnol yn gyfle da i estyn y dysgu. Chwilio am wybodaeth mewn llyfrau ac ar y we yn gofyn am sgiliau dwyieithrwydd da. Roedd y Grid Meddwl a’r gweithgareddau ar y Pwerbwynt yn rhoi cyfle i fyfyrio’n gyson wrth ofyn cwestiynau pwrpasol a chanfod gwybodaeth newydd. Roedd sgiliau Cyfathrebu, Meddwl a TGCh yn cael sylw cyson yn y gweithgaredd hwn.
Adborth gan y Dysgwr
‘Doeddwn i ddim yn meddwl ble roedd bwydydd yn cael eu cynhyrchu cyn hyn. Dw i hefyd yn deall nawr pam roedd Hitler wedi dinistrio’n porthladdoedd ni.’
‘Mae llawer o’r syniadau ry’ ni wedi trafod heddiw yn syniadau ry’ ni wedi trafod fel ysgol Eco. Ry ni’n dal yn trio arbed bwydydd i deithio o bell nawr ond am resymau gwahanol.’
‘Roedd y Grid Meddwl wedi fy helpu i feddwl ychydig mwy am beth roeddwn i eisiau gwybod. Roeddwn i’n hoffi gallu ateb y cwestiynau i gyd ar y diwedd.’
‘Roeddwn i wedi mwynhau dysgu am ddogni bwyd achos roedden ni’n gallu dysgu wrth ein gilydd. Doedd dim ots os nad oeddwn i’n gallu ateb pob cwestiwn achos roeddwn i’n gallu mynd o gwmpas y dosbarth i holi plant eraill.’
Adnoddau Eraill
Grid Meddwl
Taflen ‘Rhestr Siopa’
Llyfr Dogni
Llyfr Dogni Digidol
http://www.home-front.org.uk/rationing/virtual_ration_book.asp
Pyramid Dogni Bwyd
Pa mor ddefnyddiol oedd y dystiolaeth? (Gosod ar linell gwerth.)
Gêm y Côf
Gwersi a Ddysgwyd
Roedd perthnasu gwybodaeth y disgyblion o fwydydd a’r plât bwyta’n iach yn ennyn diddordeb disgyblion. Gellid fod wedi cysylltu’r wers gyda Gwers 3 ynglyn â ffynonellau Cynradd ac Eilaidd er mwyn cadarnhau geirfa hanesyddol a’u dealltwriaeth o dystiolaeth o’r cyfnod. Gellid fod wedi datblygu gwaith rhif wrth edrych ar bwysau’r bwydydd oedd yn cael eu dogni a phrisiau bwydydd.