
Cyfeiriant
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Adnodd sy’n gymorth wrth amcangyfrif, lluniadu a mesur cyfeiriant.
Amcangyfrif cyfeiriant (GCaD Cymru)
Defnyddiodd y disgyblion fyrddau gwynion bychain i gynnig eu hamcangyfrifon o'r cyfeiriant a arddangosir ar y BGRh. Yna, fe fesurwyd yr ongl ganddynt gan ddefnyddio onglydd. Drwy amcangyfrif yr onglau yn gyntaf, roedd disgyblion yn medru gwirio a gwerthuso mesuriadau'r onglau a fesurwyd gyda'r onglydd. Roedd yr adnodd yn hynod ddefnyddiol i alluogi arddangos i'r dosbarth cyfan y defnydd cywir ac anghywir o'r onglydd.
Lluniadu cyfeiriant (GCaD Cymru)
Gan ddefnyddio'r adnodd 'lluniadu cyfeiriant', fe wahoddwyd y disgyblion i ddod i'r bwrdd i luniadu'r cyfeiriant. Gan gychwyn gyda'r onglau rhwyddaf 000° - 090° cyn symud ymlaen at onglau anoddach 180° - 270° a'r onglau 270° - 360° fe anogwyd y disgyblion i ddefnyddio onglydd 180°yn unig. Roedd disgyblion yn teimlo'n gynhyrfus ac yn awyddus i 'roi cynnig arni' gyda nifer yn elwa o'r agwedd ginaesthetig o fesur a lluniadu onglau. Rhydd hyn y cyfle i'r dosbarth drafod a chynnig adborth uniongyrchol i'r disgybl sy'n lluniadu, gan gynnig rhesymau pam y gwnaethant fesur naill ai'n gywir neu'n anghywir. Wedi i'r dosbarth weld casgliad eang o enghreifftiau, fe aethom ati i drafod cymhwysiad ‘bywyd go iawn’ cyfeiriant. Roedd hyn yn arwain yn naturiol at y prif ymarferiad.
Cyfeiriant a Mesurau Graddfa (Echalk)
Ar gyfer y prif ymarferiad, fe arddangoswyd map o Gymru a Lloegr ar y BGRh. Fe gopïwyd a lamineiddiwyd y map o'r daflen waith gyfatebol a'i gyflwyno i'r disgyblion gael gweithio fesul pâr. Fe ddefnyddiais ychydig gwestiynau o'r daflen waith (gan ffocysu ar y cwestiynau hynny oedd yn ymwneud â threfi a dinasoedd Cymreig) ond fe drefnais hwy fel bod gan bob un pâr bum cwestiwn i weithio arnynt yn gydamserol. Dechreuodd y disgyblion mwyaf galluog gyda'r cwestiynau mwyaf heriol, yn galluogi holl ddisgyblion y dosbarth i weithio ar gyflymdra tebyg, beth bynnag eu gallu. Fel estyniad, fe ofynnwyd i rai o'r disgyblion mwyaf galluog lywio taith cwch o un tref glan môr i'r llall. Wrth farcio'r gwaith, fe ddefnyddion ni'r map rhyngweithiol ar y BGRh. Fe ddewiswyd disgyblion ar hap i roi eu hatebion. Fe wiriwyd rhain naill ai drwy glicio'r botwm ‘dangos yr ongl’, oedd yn datgelu'r ateb neu drwy ofyn i'r disgyblion ddod i fesur yr ongl ar y BGRh gan ddefnyddio offeryn yr onglydd. Roedd hyn yn fodd effeithiol iawn o farcio'r gwaith, gan bod nifer o'r disgyblion yn gwerthfawrogi esboniad gweledol i'r atebion, yn ogystal a bod nifer ohonynt yn medru sylwi ar eu camgymeriadau ac felly yn medru cywiro eu gwaith eu hunain.
Effaith a Chanlyniad
- Roedd agwedd weledol a chinaesthetig yr adnodd yn galluogi'r disgyblion i ennill dealltwriaeth dda o Gyfeiriant.
- Roedd y gweithgareddau yn cynnig cyfleon gwahanol i ddisgyblion weithio naill ai yn unigol, mewn parau neu fesul grwp.
- Roedd disgyblion yn awyddus i gydweithio a fe'u symbylwyd i weithio'n ddygn.
- Drwy ddefnydd byrddau gwyn rhyngweithiol, sicrhawyd bod pob un disgybl yn medru cyfranogi o'r gweithgaredd amcangyfrif ac roeddwn yn gallu cynnig adborth ar amrantiad i'r disgyblion i'w hatebion.
- Roedd cyfleon helaeth i'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau meddwl, cyfathrebu a gwerthuso.
- Drwy ddefnyddio dull ar hap o ddewis disgyblion, sicrhawyd bod y disgyblion yn cadw'n effro a'u bod yn canolbwyntio drwyddi draw.
Drwy roddi gwahanol gwestiynau a mannau cychwyn i'r disgyblion, roedd pob un ohonynt yn medru gweithio ar gyflymdra tebyg. Roedd hyn yn cadw cymhelliant y dysgwyr yn ogystal ag arbed rhai disgyblion rhag teimlo'n 'fethiant' am nad oeddynt wedi llwyddo i gwblhau yr un maint o gwestiynau â'r disgyblion mwy chwim a galluog.
Adborth gan y Dysgwr
Roedd y disgyblion yn awyddus ac wedi'u symbylu drwy gydol y wers. Roeddynt yn awyddus i gyfranogi o'r gweithgareddau gyda nifer yn mwynhau'r cyfle i fesur onglau ar y Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol.
Adnoddau Eraill
Byrddau Gwynion bychain ac ysgrifbinau, mapiau wedi'u lamineiddio, onglyddion a phrennau mesur.
Gwersi a Ddysgwyd
Byddai disgyblion hefyd yn elwa o ddefnyddio eu gwybodaeth am Gyfeiriant i sefyllfaoedd 'bywyd go iawn' a gweithgareddau ymarferol eraill. Yn y wers nesaf, gall disgyblion lywio eu ffordd o gwmpas tir yr ysgol drwy ddefnyddio'r offer priodol.