
Blogio
Ffocysau Pellach: DMaAGD, Arfer myfyriol,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Y defnydd o weithgareddau meddwl GCaD Cymru er mwyn cefnogi’r gwaith a wnaeth y dosbarth ar flogio.
Roeddwn i o’r farn y byddai cychwyn Blog gyda phlant yn ffordd
ddelfrydol o ddefnyddio eu brwdfrydedd a’u hyfforddi hwy i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa.
Effaith a Chanlyniad
- Mae gwybodaeth y disgyblion am gynulleidfa a phwrpas yn amlwg wedi gwella. Gellir gweld hyn trwy ansawdd y gwaith ysgrifenedig sydd wedi’i gynhyrchu ar y blog. O ran fy nisgyblion sydd yn cael trafferth gyda’r cysyniad o gynulleidfa a phwrpas wrth siarad, mae hwythau wedi dod yn eu blaen yn sylweddol. Trwy ddefnyddio’r meini prawf llwyddiant, mae dealltwriaeth y disgyblion o’r genre a nodweddion pwysig o grynodeb pennod wedi gwella- fe welir hyn o’r ffaith gan nad oedd llawer ohonynt eisiau cymorth PP ar ddiwedd y prosiect.
- Gan edrych ar dargedau’r Cwricwlwm Cenedlaethol a’r Fframwaith Sgiliau, mae’r disgyblion wedi symud tuag at eu cyflawni i gyd ( ar Lefel 3 a 4).
- Mae agweddau’r disgyblion tuag at ysgrifennu wedi gwella’n sylweddol. Mae un bachgen oedd yn edrych yn arbennig o benisel wrth wynebu gorfod gwneud crynodeb o bennod, erbyn hyn methu disgwyl ysgrifennu crynodeb o bennod ar y blog. Felly, mae’r prosiect wedi llwyddo i bresenoli’r dysgu. Mae fy mrwdfrydedd i dros ddysgu hefyd wedi cynyddu’n ddirfawr gan fod y gweithgareddau yn rhai llwyddiannus ac yn.
- rhai sy’n dal sylw’r disgyblion. Pan fo’r disgyblion yn ymroi i waith fel hyn mae modd mynd â dysgu cymaint ymhellach. Mae’r plant yn gofyn yn gyson am ddefnyddio teclynnau PP a Tagxedo Microsoft, yn ogystal â gofyn am ddefnyddio’r Graff Byw a PP. O’m rhan i, dyma’r allwedd ar gyfer codi safonau, oherwydd os oes gennych blant sydd “eisiau” defnyddio teclynnau fydd yn cefnogi a datblygu dysgu, bydd eu cyflawniadau hwy yn codi ac fe fyddant yn datblygu agwedd gadarnhaol tuag at addysg. Mae fy nisgyblion i werth eu bodd yn defnyddio’r blog a’r teclynnau a soniwyd amdanynt er mwyn ychwanegu at eu dysgu
Adborth gan y Dysgwr
Gweler y Fideo wedi’i atodi gyda’r sleidiau PP. Yr unig ymadrodd dwi’n dal gafael arno yw un gan ferch o’r enw Loanna: “Mr Elliott, don i ddim yn arfer mwynhau hyn o gwbl- ond erbyn hyn dwi wrth fy modd hefo fo!” –wrth son am ddefnyddio’r teclynnau hyn i gefnogi ysgrifennu.
Adnoddau Eraill
Rancio Pyramid GCaD Cymru( wedi’i addasu o 10 elfen) PowerPoint ar gyfer y Ranc Byramid, Tagxedo (wedi’i yrru gan Silverlight Microsoft Silver), Literacy Evolve, Oranges in No Man’s Land (Llyfr), Porwr Rhyngrwyd a Primary Blogger.
Gwersi a Ddysgwyd
Rwyf wedi dysgu bod y disgyblion hynny sydd yn frwdfrydig ac yn rhan o’r broses ddysgu yn haws i’w dysgu na’r rhai hynny sydd heb ddiddordeb na brwdfrydedd. Roeddwn i’n arfer meddwl mod i’n tanio disgyblion, ond rwan maent yn datblygu’n ddysgwyr agored, parod a gweithredol sydd am wella ar yr hyn y maent yn ei wneud. Trwy ddefnyddio’r teclynnau hyn a chwblhau’r prosiect, rwyf wedi penderfynu gwneud y cwbl o’m dysgu prynhawn trwy’r dull hwn .
Gellid defnyddio’r gweithgareddau mewn cymaint o ffyrdd gwahanol. Natur generig sydd i’r teclynnau sydd wedi’u hanelu tuag at wella sgiliau gyda’r Fframwaith Sgiliau. Felly , mewn ffordd mae’r cyd-destun yn amherthnasol gan mai’r sgiliau a ddysgir sy’n bwysig yn y bôn. Bydd y sgiliau hyn yn caniatáu i’r plant feddiannu eu gwybodaeth eu hunain
Pe bawn i am wneud pethau’n wahanol, byddwn yn dysgu’r sgiliau TGC i blant ar wahân, gan ganiatáu iddynt lwytho blogiau, creu’r graffiau byw a defnyddio graffiau echel yn haws. Er enghraifft, maent yn wych am eu defnyddio erbyn hyn, ond pe bawn i wedi gwneud sesiwn ar y teclynnau ymlaen llaw yn ystod cwblhau’r gweithgareddau, fydden ni ddim wedi gorfod stopio cymaint i drafod y camau ar gyfer llwytho blog