#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Dyfalwch pwy?

Dyfalwch pwy?

Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau Rhifedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr adnodd i gyflwyno mathau gwahanol o holi i blant Blwyddyn 2 gan arwain at waith TGCh ar gronfeydd data canghennog.

Fe’i defnyddiwyd gyda grwpiau bach a chyda’r dosbarth cyfan.

Amcanion dysgu

Deall bod mathau gwahanol o gwestiynau y gellir eu hateb mewn ffyrdd gwahanol

Gofyn cwestiynau sy’n cydymffurfio â’r rheol eu bod ond yn gallu cael ateb ie neu nage.

Gwahaniaethu

Gweithgaredd 1

Ar gyfer disgyblion yr oedd arnynt angen arweiniad strwythuredig o ran eu meddwl neu ar gyfer disgyblion a oedd yn ddarllenwyr annibynnol ac a allai chwarae’r gêm heb gymorth oedolyn.

Gweithgaredd 2

Ar gyfer disgyblion a oedd yn datblygu’r gallu i feddwl yn rhesymegol ac yn gallu gofyn cwestiynau priodol yn annibynnol.

Effaith a Chanlyniad

PrFont34Bin0BinSub0Frac0Def1Margin0Margin0Jc1Indent1440Lim0Lim1Yn unol â’r Fframwaith Sgiliau i’r Rhai rhwng 3-19 oed yng Nghymru, cafodd yr adnodd hwn effaith ar:

Sgiliau meddwl

  • Cynllunio –Gofyn cwestiynau – Gofyn cwestiynau’n ymwneud â chyd-destun a gwrando cyn gofyn cwestiynau pellach.
  • Datblygu – Meddwl yn Rhesymegol a Chwilio am Batrymau – Nodi a disgrifio tebygolrwydd a gwahaniaethau drwy wneud cymariaethau syml.
  • Myfyrio – Adolygu Canlyniadau a Meini Prawf Llwyddiant – Cysylltu canlyniadau â meini prawf llwyddiant.

Llythrennedd

  • Llefaredd  - Datblygu Gwybodaeth a Syniadau.

Rhifedd

  • Cymharu Data – Didoli gwrthrychau gan ddefnyddio un neu fwy o feini prawf.

Wrth ddatblygu’r gêm annibynnol, datblygodd y plant ddealltwriaeth bod mathau gwahanol o gwestiynau sydd angen mathau gwahanol o atebion ac yn fuan iawn, dechreusant sylweddoli’r math o gwestiynau roedd eu hangen i gydymffurfio â’r rheol nad ydynt ond yn gallu cael ateb ‘ie’ neu ‘nage’.

Roedd yn rhaid i’r plant wrando’n ofalus ar yr atebion a roddwyd ac edrych am nodweddion tebyg a gwahaniaethau o ran y cymeriadau a bortreadwyd yn y gêm cyn chwilio am batrymau a gwrthod rhai cymeriadau ar sail yr ateb hwnnw.

Yna roedd yn rhaid iddynt edrych am nodweddion tebyg a gwahaniaethau o ran y cymeriadau a oedd ar ôl cyn ffurfio cwestiwn newydd ar sail yr hyn roeddent wedi’i weld.

Roeddent yn gallu adolygu eu canlyniadau ar y cyd wrth i’r gêm fynd yn ei blaen a gwnaeth y plant gywiro meddwl ei gilydd. Ar ddiwedd y gêm, roeddent yn gallu gweld p’un a oeddent wedi dyfalu’r cymeriad cywir.

Gyda’r gêm dan arweiniad, roedd pwyslais cynyddol ar y meddwl rhesymegol a’r patrymau chwilio.

Adborth gan y Dysgwr

“Mae hyn yn union fel; “Guess Who?”

“Gawn ni ei chwarae eto?”

Roedd y plant wedi’u difyrru’n fawr gan yr adnodd ac roedd yn amlwg eu bod yn dysgu drwy chwarae a dyna ethos y Cyfnod Sylfaen.

Adnoddau Eraill

  • Arddangosfa ddosbarth o ffotograffau’r plant wedi’u gosod fel yr adnodd GCaD Cymru.
  • Adnodd ar-lein ‘Guess My Number..’ (dolen isod)
  • Amrywiaeth o wisgoedd ac ategolion gwisgo i fyny yn yr ardal chwarae rôl.
  • Gemau bwrdd Guess Who?

Gwersi a Ddysgwyd

Mae angen arweiniad oedolyn yn y lle cyntaf er mwyn sicrhau bod y plant yn gyfarwydd â rheolau’r gêm ac er mwyn dangos sut i adlewyrchu eu meddwl yn unol â’r ffordd y datblygwyd yr adnodd i weithio.

Mae angen arweiniad oedolyn o ran Gweithgaredd 1 lle nad yw’r plant yn ddarllenwyr hyderus, ond pan fyddant wedi cyrraedd cam lle mae eu meddwl wedi datblygu ddigon i allu chwarae’r gêm yn effeithiol, mae’n fwy tebygol y byddant hefyd yn gallu darllen yr hyn sy’n ymddangos ar y sgrin.