
Heriau Gwleiddyddol a Chymdeithasol : Achos a Chanlyniad
Ffocysau Pellach: Asesiad Cyfoedion, Cynhwysol, Cyflawniad Bechgyn, Dysgu wedi’i Bersonoli,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiwyd yr adnodd fel ymarferiad adolygu a gweithgaredd sgiliau meddwl i ddisgyblion oedd yn astudio'r pwnc Prif Heriau Gwleidyddol a Chymdeithasol lefel TGAU.
Mae'r adnodd yn archwilio achosion mewnfudo, yr 'Ofn Coch’(Red Scare), ffwndamentaliaeth crefyddol, y 'Ku Klux Klan' a'r gwahardd (prohibition). Gofynnir i'r disgyblion ddangos beth oedd achosion a chanlyniadau y nodweddion hyn.
Drwy ddefnyddio'r adnodd, fy mwriad oedd herio disgyblion i adolygu eu gwaith blaenorol mewn paratoad ar gyfer prawf ar ddiwedd yr uned. Roeddwn hefyd yn dymuno defnyddio gweithgaredd ysgogol a heriol i ymrwymo'r disgyblion, yn enwedig felly'r bechgyn, mewn deunydd oedd yn heriol. Roeddwn hefyd yn gobeithio y byddai'n weithgaredd da i gynorthwyo disgyblion adolygu pwnc arbennig.
Gweithgaredd oedd hwn lle roedd y bechgyn yn enwedig yn awyddus i gyfranogi, gan iddo ganiatàu i'r disgyblion ddod at y bwrdd gwyn rhyngweithiol i berfformio gwahanol weithredoedd. Gwelwyd cynnydd yng nghyfranogaeth y bechgyn gan bod y gweithgaredd yn annog disgyblion i gydweithio. Golygai hefyd bod disgyblion oedd ag anghenion arbennig a dwys wedi'u hymrwymo. Roedd defnydd cynhyrchydd enwau ar hap o'r rhyngrwyd hefyd yn fodd o sicrhau cyfranogaeth amgenach o'r gweithgaredd.
Roedd y gweithgaredd hefyd yn galluogi disgyblion (fel grwp) i adolygu a newid atebion wrth i fotwm clicied y gweithgaredd ganiatau adolygu a newid yr atebion a roddwyd. Yn ogystal, fe gynigodd annibyniaeth i ddisgyblion gan bod yna fotwm swyddogaeth ar gael oedd yn medru cynnig yr ateb cywir.
Defnyddiodd y disgyblion peth llyfrau gwaith a llyfrau ymarfer i adolygu'r pwnc ar gyfer prawf diwedd yr uned.
Effaith a Chanlyniad
- Defnyddiwyd y gweithgaredd hwn fel Asesiad ar gyfer Dysgu gan bod angen i'r disgyblion ddefnyddio'u gwybodaeth blaenorol ar brif newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol yr Unol Daleithiau yn y cyfnod 1910 hyd 1929. Roedd y gweithgaredd yn hybu asesiad gan gyfoedion fel modd i newid atebion. Roedd y disgyblion hefyd yn gallu gwirio unrhyw ddiffygion yn eu gwybodaeth. Roedd y gweithgaredd hefyd yn galluogi datblygiad gwybodaeth pellach.
- Roedd defnyddio'r gweithgaredd yn esgor ar welliant yng nghanolbwyntio'r disgyblion a'u ffocws, a arweiniodd at ddatblygiad sgiliau meddwl a datrys problemau.
- Roedd cael defnydd adnoddau gweledol mwy ymgysylltiedig ynghyd ag adnoddau rhyngweithiol yn fodd i ysgogi cyfranogaeth gwell ymysg bechgyn y dosbarth, yn enwedig gan y gallent ddod at y bwrdd rhyngweithiol. Roedd disgyblion oedd ag anghenion arbennig a dwys hefyd wedi'u hymrwymo'n weithredol.
- Roedd disgyblion yn gwrando'n fwy astud ar eu cyfoedion oherwydd anogwyd cydweithio a chynhaliaeth pan oedd y disgyblion yn ymgymryd â gweithgareddau'r bwrdd gwyn rhyngweithiol. Roedd disgyblion yn dangos cynnydd mewn parch i eraill, ac roeddynt yn barod i ddisgwyl eu tro pan yn ateb cwestiynau, gan ddeall y byddent yn cael cyfle i fynegi barn.
- Cafwyd cynnydd mewn cynhwysedd, gan i'r disgybl wrth y bwrdd ddibynnu ar y disgyblion eraill i'w gynorthwyo i gynhyrchu'r atebion cywir, tra anogwyd y disgyblion i gasglu barn cynifer o'r disgyblion ac oedd yn bosib.
- Anogwyd dysgu annibynnol gan bod y disgyblion yn medru cydweithio heb ymrwymiad yr athro dosbarth.
- Roedd gwell ymrwymiad yn arwain at ganlyniadau gwell ym mhrawf diwedd yr uned a osodwyd yn y wers a ddilynodd y gweithgaredd hwn.
- Nid oedd angen addasu'r gweithgaredd ac roedd yn bosib ei ddefnyddio fel ag yr oedd. Roedd swyddogaeth y gweithgaredd hefyd yn arferol, oedd yn golygu ei fod yn rhwydd i'w ddefnyddio.
Adborth gan y Dysgwr
'Mae hi'n llawer gwell adolygu fel hyn, oherwydd mae'n golygu nad ydw i ond yn edrych ar lyfr, ond hefyd roedd hi'n brafiach o lawer gallu cydweithio gyda disgyblion eraill i ganfod yr ateb cywir.’
‘Fe wnes i'n dda yn fy mhrawf gan i mi gofio nifer o'r manylion a ddefnyddiwyd yn y gweithgaredd achos a chanlyniad.’
Gwersi a Ddysgwyd
Gellir ymddiried yn y disgyblion i gynnal gweithgareddau ac fe all hwn arwain at gyfranogaeth rhagor o ddisgyblion, yn enwedig bechgyn a'r rheini sydd ag anghenion dwys ac arbennig. Gellir addasu'r gweithgaredd i gwmpasu pynciau eraill.