
Defnyddiau yn Newid
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Asesiad Cyfoedion, Cyflawniad Bechgyn,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Gwers gychwynnol sy’n ymchwilio sut mae defnyddiau’n newid, yn cynnwys y rhai y gellir eu cildroi a’r rhai na ellir eu cildroi.
- Gwyliodd y disgyblion y fideo a ymgorfforwyd yn Nhab 1. Fe gytunon nhw fod y fideo yn addysgiadol a’i fod yn rhoi golwg gwahanol iddynt ar y modd y gallai hylifau gael eu troi’n solidau. Yn draddodiadol roeddent wedi meddwl am ddwr yn rhewi’n iâ. Fe wnaeth yr athro ail ymweld a’r hyn a ddysgwyd yn flaenorol am anweddu a’r gylchred law.
- Grid GESD - Fe wnaeth y disgyblion eu nodiadau eu hunain ar eu byrddau gwyn bach a chymryd lluniau ar ddelweddwr i gadw’r wybodaeth/delweddau. Gofynnodd yr athro'r cwestiynau oedd wedi’u hymgorffori i’r disgyblion er mwyn annog rhai o’r plant is eu gallu i ddefnyddio eu gwybodaeth i egluro eu syniadau.
- Meddwl am ddefnyddiau yn newid - Defnyddiodd yr athro'r cwestiynau a ymgorfforwyd . “Pa ffyrdd rydych chi wedi’u darganfod i newid defnyddiau?”, “Sut gwnaeth y defnyddiau newid?”, “Pa ffyrdd eraill o newid defnyddiau rydych chi’n gwybod amdanynt?” i annog y disgyblion i gymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i’r dasg gyfredol.
- Trafod sut y gall defnyddiau newid o bosib - yn gyffredinol, roedd gan y disgyblion ymwybyddiaeth dda o’r modd y gallai’r defnyddiau newid. Defnyddiodd yr athro'r cwestiynau procio’r cof yn ogystal â’i gwestiynau ei hun i’r disgyblion ymateb iddynt. Gofynnwyd i’r disgyblion drafod eu meddyliau gyda’u partneriaid siarad a rhoi adborth i bâr arall o blant er mwyn datblygu eu syniadau ymhellach.
- Sut caiff pensil ei wneud – rhoddwyd tasg ymchwil TGCh fer i’r disgyblion yn defnyddio’r ystafelloedd cyfrifiaduron. Yn hytrach na chyflwyniad un munud, rhoddodd pob pâr o ddisgyblion ffaith am bensiliau.
- Defnyddiwyd sut mae defnyddiau’n dod yn wrthrychau fel trafodaeth ddosbarth seiliedig i siarad am y modd mae defnyddiau’n newid i ddod yn gynnyrch - e.e. cotwm yn grys-t, lledr yn esgidiau, ac ati - Gyda’r tab nesaf, (7) mewn golwg, gofynnodd yr athro gwestiynau’n seiliedig ar wybodaeth a deall i annog trafodaeth ddosbarth. Roedd enghreifftiau’n cynnwys: “Allwch chi ddweud wrthyf beth arall sy’n cael ei wneud o gotwm?” a “Beth sy’n rhaid iddo ddigwydd er mwyn i glai newid yn fwg ceramig?”.
- O ba ddefnyddiau y mae dillad yn cael eu gwneud? - fe baratôdd y disgyblion fwrdd stori byr mewn parau i archwilio dilledyn a’r broses a aeth drwodd o ddefnyddiau crai i’r cynnyrch gorffenedig. Gofynnodd yr athro gwestiynau i’r plant i’w hannog i gymhwyso eu gwybodaeth. “Allwch chi arddangos sut cafodd y cynnyrch ei ddatblygu gam wrth gam?” Yna, wrth gyflwyno eu syniadau, gofynnodd yr athro i’r disgyblion ddadansoddi eu canfyddiadau nhw a chanfyddiadau parau eraill drwy ofyn cwestiynau megis, “Allwch chi egluro’r broses?” a “Allwch chi gymharu a chyferbynnu’r newidiadau mewn defnyddiau gyda grwp arall? Ydyn nhw'r un peth?”
- Grid GESD - fel gweithgaredd dosbarth, arweiniodd yr athro’r disgyblion i werthuso’r hyn roeddent wedi’i ddysgu o’r gweithgaredd. Y brif nodwedd oedd bod y disgyblion wedi gweld dull arall o fynd i’r afael â newidiadau mewn defnyddiau. I werthuso, gofynnodd yr athro: “Beth wnaethoch chi ei ddarganfod?”, a “Beth sy’n gwneud defnydd yn addas i gynnyrch?” a “Beth sy’n gwneud crys-t da, er enghraifft, (perthnasol i’r cynnyrch)?”
Gwneud nodiadau - Defnyddiwyd hwn gan yr athro yn ystod y wers i wneud arsylwadau am y disgyblion a’u cynnydd.
Effaith a Chanlyniad
- Mae dull cam wrth gam yr adnodd yn helpu’r athro i arwain y disgyblion a gall yr athro ddewis defnyddio’r adnodd i gyd neu rywfaint ohono yn unol â’r angen.
- Fe ddatblygodd y disgyblion syniadau’n gyflym ac roeddent yn hyderus wrth gyflwyno eu syniadau a rhoi adborth i’w cyfoedion.
- Roedd bechgyn yn canolbwyntio’n arbennig oherwydd natur camau bychain yr adnodd oedd wedi’i dabio ac yn gyffredinol roeddent yn siarad am eu syniadau’n eglur gan ddefnyddio’r nodiadau roeddent wedi’u gwneud.
- Mae’r offer yn ddefnyddiol trwy gydol y gweithgaredd.
Adborth gan y Dysgwr
Yn gyffredinol fe wnaeth y disgyblion fwynhau’r adnodd. Roeddent yn hynod hoff o’r ffaith eu bod yn gallu teipio gan ddefnyddio’r offer teipio testun i anodi eu gwaith, llawer yn haws na cheisio ysgrifennu gyda’r llygoden. Cawsant fod y fideo yn addysgiadol ac arweiniodd at lawer o drafod.
Adnoddau Eraill
Byrddau gwyn bach a phennau, ystafelloedd cyfrifiaduron a chyfrifiaduron personol, pennau, papur i wneud nodiadau.
Gwersi a Ddysgwyd
Gallai adnodd mor fanwl a mawr gael ei gyflwyno dros ddwy neu dair gwers petai’r athro eisiau rhoi mwy o gyfle i’r plant ddatblygu eu syniadau a’u cyflwyniadau ymhellach. Defnyddio meddalwedd PowerPoint Open Office, Textease neu 2Simple