
Dewis un o dri - gweithgaredd datblygu sgiliau meddwl
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Asesiad Cyfoedion, Arfer myfyriol,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Gweithgaredd sgiliau meddwl dewis un o dri mewn cyd-destun gwyddoniaeth.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys PowerPoint rhyngweithiol yn debyg i’r un Pa Un Sydd yn Wahanol enwog, ond mae’n gymaint cryfach o ran ei botensial i ddatblygu sgiliau meddwl. Y syniad yw bod disgyblion yn cael dewis 3 delwedd o 16, fe bod ganddynt ddewis yn y mater yn hytrach na’r athro yn dewis y 3 delwedd trostynt!
Cyn iddynt ddewis eu tair delwedd, mae 4 cwestiwn popio i fyny sy’n eu helpu i ddewis yn ôl rhai meini prawf( e.e. dewiswch 3 delwedd sy’n gwneud i chi deimlo’n ddiogel..!), ac ar waelod y gornel dde, mae bocs testun rheoli Active X sy’n caniatáu i’r dysgwyr ysgrifennu pa ddelwedd sydd yn wahanol , ac esbonio pam eu bod wedi’i ddewis!
Effaith a Chanlyniad
- Roedd y rhyddid dewis ynghlwm wrth y gweithgaredd hwn yn caniatáu i ddysgu wedi’i bersonoli ddigwydd. Roedd y dysgwyr yn ymroi mwy i’r dasg a osodwyd gan eu bod yn gallu teimlo synnwyr o annibyniaeth..
- Rhoddwyd cyfleoedd i ddysgwyr fyfyrio ar eu syniadau a’u dewisiadau trwy gwblhau’r bocs rhyngweithiol o fewn y cyflwyniad PowerPoint.
- Roedd disgwyl i bob grwp ysgrifennu eu rhesymau yn y blychau rhyngweithiol, ond ar ben hynny, roedd rhaid iddynt adrodd yn ôl i’w cyfoedion. Roedd hyn yn gyfrwng i ddatblygu sgiliau llythrennedd, ac roedd y dysgwyr yn gallu mynegi eu syniadau, trwy ymadroddion pob dydd i ddechrau ond yna symud ymlaen i ddefnyddio mwy o derminoleg wyddonol.
- Yn y sesiwn adborth, gallai grwpiau esbonio eu dewisiadau i weddill y dosbarth ac roedd gan ddysgwyr unigol y rhyddid i gytuno, neu anghytuno, gan gyfrannu tuag at ddysgu eu cyfoedion.
Adborth gan y Dysgwr
“Dwi’n hoffi gallu dewis yr ateb! Mae’n helpu fi i feddwl pam mod i wedi meddwl yn y ffordd honno”!
“Roedd hi’n eithaf od i weld cymaint o atebion gwahanol gan y plant eraill. Roedd hynny’n helpu fi i’w deall nhw ychydig mwy!”
Gwersi a Ddysgwyd
Mae’r gweithgaredd yn gweithio’n arbennig o dda o liniadur neu PC, ond os nad oes cyfres dosbarth ar gael, byddwn yn printio’r sleidiau bedair gwaith i bob grwp yn cynnwys y cwestiynau fel y gall y dysgwyr barhau i wneud eu dewisiadau.