
Cylchedau
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Asesiad Cyfoedion, Cwricwlwm Cymreig ,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Adnodd i gyflwyno Cylchedau i ddosbarth Blwyddyn 4, gan eu trefnu yn bartneriaid meddwl a’u grwpio yn ddiweddarach i ddefnyddio’r offer cylched.
Gwelodd y disgyblion fod yr adnodd yn ddifyr ac yn berthnasol i’r testun.
Roedd yr adnodd yn allweddol ar gyfer datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r testun. Nid oeddent wedi dod ar draws cylchedau o’r blaen a’r symbolau clir a natur ryngweithiol yr adnodd.
Gallai disgyblion weld y cysylltiadau rhwng y delweddau a’r symbolau ar y bwrdd gwyn ac fe wnaethant ddefnyddio’r wybodaeth hon i helpu datblygu eu syniadau wrth ddefnyddio’r adnoddau trydanol ffisegol oedd ganddynt.
Defnyddiodd yr athro lawer o strategaethau asesu ar gyfer dysgu i holi ynghylch cynnydd y disgybl. Mae’r adnodd yn dda ar gyfer hyn gan ei fod yn cynnwys gweithgareddau sy’n ennyn diddordeb y plant o ddechrau’r wers.
Effaith a Chanlyniad
- Llwyddodd yr athro i ennyn diddordeb y disgyblion trwy ofyn cwestiynau iddynt.
- Roedd y disgyblion yn awyddus i ddefnyddio’r adnodd a gwelsant y cynllun yn fuddiol i allu rhannu eu syniadau
- Mae ymagwedd cam wrth gam yr adnodd yn cynorthwyo’r athro i arwain y disgyblion a gall yr athro ddewis defnyddio pob un o’r adnoddau, neu rai ohonynt yn unol ag angen.
- Mae llawer o gyfleoedd ar gael i’r athro holi’r disgyblion trwy ddefnyddio ymagweddau amrywiol gan ddefnyddio sgiliau meddwl lefel is a lefel uwch.
Adborth gan y Dysgwr
- Mwynhaodd y disgyblion y gweithgaredd.
- Fe wnaethant allu holi ei gilydd yn effeithiol a datblygu eu sgiliau meddwl.
- Adborth gan yr Athro: Gydag adnodd mor weledol a rhyngweithiol, gwnaeth fy ngwaith o gyflwyno’r agwedd hon ar wyddoniaeth nid yn unig yn hawdd ond yn ddifyr. Fe wnaeth y plant fwynhau defnyddio’r adnodd hwn yn fawr ac maent wedi atgyfnerthu eu gwaith yn eu llyfrau gwyddoniaeth.
Adnoddau Eraill
Ddim yn creu deunyddiau, byrddau gwyn, bwrdd gwyn rhyngweithiol, offer cylched trydanol.
Gwersi a Ddysgwyd
Bod angen canllaw neu fframwaith ar lawer o athrawon i ddatblygu syniadau/testunau Dylunio a Thechnoleg yn y dosbarth.