
Helaethiadau
Ffocysau Pellach: Asesiad Cyfoedion, Cynhwysol, Sgiliau Rhifedd, Cyflawniad Bechgyn,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Adnodd a ddefnyddiwyd fel prif weithgaredd i ddisgyblion ymchwilio i’r berthynas rhwng helaethiadau ac arwynebedd.
Lleolwyd y wers mewn ystafell gyfrifiaduron gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol a chyfrifiaduron i ddisgyblion weithiau arnynt mewn parau.
Effaith a Chanlyniad
- Llwyddwyd i ennyn diddordeb y disgyblion a’u cymell i weithio. Fe wnaethant fwynhau’r cyfle i gael profiad ‘uniongyrchol’ gyda’r adnodd p’un a oeddent yn defnyddio eu cyfrifiadur eu hunain neu yn y blaen yn defnyddio’r bwrdd gwyn rhyngweithiol.
- Cafodd y gweithgaredd hwn effaith gadarnhaol ar y bechgyn mwy heriol gan fod elfen fwy gweledol y gwaith yn apelio atynt. Fe wnaethant hefyd fwynhau’r cyfle i gael tro â’r bwrdd gwyn rhyngweithiol.
- Gweithiodd y disgyblion yn dda mewn grwpiau da, yn aml heb oruchwyliaeth uniongyrchol. Fe wnaethant gydweithio’n effeithiol, gan wrando ar farn a safbwyntiau ei gilydd.
- Roedd y disgyblion yn sensitif i ddisgyblion eraill ac yn defnyddio beirniadaeth adeiladol.
- Roedd y disgyblion yn frwdfrydig ac yn mwynhau’r cyfle i fod yn gyfranogwyr gweithredol yn y wers.
- Rhoddwyd cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau meddwl, cyfathrebu a datrys problemau.
- Fe wnaeth yr agwedd weledol a chinesthetig ar yr adnodd alluogi disgyblion i gynnal eu sylw ar eu dysgu.
- Fe wnaeth defnyddio’r byrddau gwyn bach sicrhau bod pob disgybl yn gallu cymryd rhan a bod yn ‘rhaid’ i bob disgybl wneud penderfyniad terfynol.
- Fe wnaeth y disgyblion ddefnyddio a datblygu eu sgiliau rhifedd i gyfrifo arwynebedd siapiau a dod o hyd i’r berthynas rhwng helaethiadau ac arwynebeddau.
Adborth gan y Dysgwr
Roedd y disgyblion yn awyddus i gymryd rhan yn y gweithgareddau a mwynhaodd llawer ohonynt y cyfle i weithio ar y cyfrifiadur a defnyddio’r bwrdd gwyn rhyngweithiol o flaen y dosbarth.
Adnoddau Eraill
Cwestiwn arholiad wedi’i lamineiddio. Ysgrifbinnau a byrddau gwyn bach.
PowerPoint – Helaethu a Chysyniad y Cartwn Arwynebedd
Gwersi a Ddysgwyd
Mae’r disgyblion yn frwdfrydig ac wedi’u cymell i weithio lle ceir cyfleoedd i ddefnyddio TGCh.