
Arfer da > Darganfod adnoddau > Archwilior Ddelwedd yn Concwest Edward Iaf
Archwilior Ddelwedd yn Concwest Edward Iaf
Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Mwy galluog a thalentog, Cynhwysol, Dysgu Estynedig, Dysgu wedi’i Bersonoli,
Ffocysau Pellach: Mwy galluog a thalentog, Cynhwysol, Dysgu Estynedig, Dysgu wedi’i Bersonoli,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Adnodd a ddefnyddiwyd fel rhan o ymchwilad hanesyddol i annog y disgybion i ddehongli ffynonellau hanesyddol a’u hannog hwy i gynnal gwaith ymchwil
- Penderfynais ddefnyddio’r adnodd fel gweithgaredd dosbarth a barodd am wers gyfan.
- Roeddwn am herio’r disgyblion i gael hyd i atebion drostynt eu hunain a’u hannog hwy i gwestiynu ffynonellau. Roeddwn hefyd am ymgorffori sgiliau meddwl fel rhan o’r wers ac fe gyflawnwyd hyn trwy ofyn cwestiynau Socrataidd i’r disgyblion.
- Roeddwn hefyd am ddefnyddio gweithgaredd heriol ac ysgogol i arwain y disgyblion i ddefnyddio gwybodaeth flaenorol i ddatrys problemau.
- Cyn cychwyn y gweithgaredd , roedd y disgyblion yn ymwybodol eu bod yn cynnal ymchwiliad hanesyddol a’u bod wedi astudio cyfnod y Tywysogion Cymreig.
- Ar y cychwyn, cyflwynwyd y ddelwedd i’r disgyblion ac yna gofynnwyd iddynt gwblhau gweithgaredd paru a rhannu er mwyn ystyried beth yn union yr oeddent am wybod am y ddelwedd. Roedd hyn yn effeithiol gan i’r disgyblion gynnig cefnogaeth gyfoed dda i’w gilydd. Anogwyd y Disgyblion wedyn i ddefnyddio’r 5W a’r 1H, ac yna i gyflwyno eu syniadau o flaen y dosbarth cyfan. Cafodd rhai o’r cwestiynau hyn eu hysgrifennu ar y bwrdd gwyn.
- Yn dilyn hynny, aethom trwy’r cwestiynau y mae modd eu cyrchu trwy glicio ar y marc cwestiwn. Roedd yn ymarferiad defnyddiol iawn gan fod y cwestiynau’n mynd o rai ar lefel rhesymu isel i rai ar lefel rhesymu uwch . Golyga hyn fod disgyblion ALN a MAT yn rhan allweddol o’r gwaith ac yn gallu cyfrannu’n effeithiol. Anogwyd y disgyblion i drafod syniadau cyn derbyn rhagor o wybodaeth. Roedd modd i’r disgyblion hefyd gymhwyso nodweddion dynodi gwybodaeth megis meysydd agored- “open-fields”.
- Ar ddiwedd y dasg, gofynnwyd i ddisgyblion wirio’r cwestiynau a ofynnwyd ganddynt ar gychwyn y wers gyda’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu yn ystod y wers. Cafwyd trafodaeth am yr hyn yr oedd y disgyblion wedi’i ddysgu a beth oedd angen ei wneud nesaf.
Effaith a Chanlyniad
- Roedd y gweithgareddau hyn yn hybu datblygu sgiliau meddwl a dysgu uwch ar gyfer disgyblion o bob lefel gallu.
- Datblygwyd sgiliau meddwl trwy gynnwys cwestiynau rhesymu ar lefel uwch. Gofynnwyd i ddisgyblion gefnogi casgliadau ac fe’u holwyd hefyd am y cwestiynau yr oeddent wedi eu dewis,.
- Roedd defnyddio adnoddau gweledol mwy apelgar yn fodd o ymgynnwys disgyblion o wahanol lefelau gallu.
- Dangosoddd y disgyblion agwedd bositif iawn gan fwynhau’r her o ateb problemau trwy ddefnyddio adnoddau rhyngweithiol. Roedd hyn yn fodd i wella lefelau canolbwyntio a dal sylw’r disgyblion gyda’r gwaith.
- Mae’r gweithgaredd yn caniatau i ddisgyblion i weithio’n annibynnol ac yn hybu cefnogaeth gyfoed. Roedd hyn yn fodd i gymell y disgyblion a chreu profiad dysgu hwyliog. Roedd y disgyblion yn gallu gwerthuso eu canlyniadau eu hunain a gweithredu arnynt.
- Roedd y disgyblion yn gwrando’n fwy astud ar eu cyfoedion gan yr anogwyd cydweithio a chefnogi. Gofynnwyd i ddisgyblion baru a rhannu syniadau.
- Roedd disgyblion yn gallu ymestyn eu geirfa a chyrraedd dealltwriaeth am dermau a chysyniadau hanesyddol. Golygodd hyn fod y disgyblion yn gallu cynhyrchu gwaith o ansawdd uwch ac yn gallu ymestyn eu gwybodaeth hanesyddol..
- Roedd cyfle i ddisgyblion abl a thalentog i ddatblygu eu sgiliau meddwl a chyflwyno eu syniadau yn ysgrifenedig.
- Roedd y disgyblion hynny sy’n cyflawni’n uwch yn derbyn cyfleoedd i gyflawni’n uwch trwy’r gweithgraeddau creadigol a gynigwyd.
- Doedd dim angen addasu’r gweithgaredd ac roedd modd ei ddefnyddio’n union fel ag yr oedd gan ei fod yn drylwyr iawn. Roedd y cyfarwyddiadau’n glir felly roedd yn hawdd i’r disgyblion ei ddefnfyddio.
Adborth gan y Dysgwr
“Mi wnes i fwynhau gan ein bod ni’n gallu rheoli’r gwaith a doedd dim rhaid i syr wneud llawer”
“Roeddan ni’n gallu dysgu llawer am y castell mewn ffordd ddiddorol.”
Gwersi a Ddysgwyd
Sicrhau mynediad i’r we.
Rhoi cyfle i’r disgybion i feddwl ac annog cymaint o drafodaeth â phosib. Gellid defnyddio cynhyrchydd enwau ar hap i sicrhau mwy o gyfranogiad.