
Ffermior Gwynt
Ffocysau Pellach: DMaAGD, Arfer myfyriol,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Gwaith CA2 Daearyddiaeth gyda Blwyddyn 6, sydd yn defnyddio sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau i fynd i’r afael a materion ‘yn y newyddion’ – yn yr achos hwn, creu ffermydd gwynt i helpu anghenion egni yn y dyfodol.
Deuthum o hyd i’r adnodd ‘Ffermio’r Gwynt’ ar GCaD Cymru a rhoddodd hwn yr ysgogiad cychwynnol i mi ond, roeddwn eisiau ymestyn yr adnodd ar gyfer fy mhlant. Lluniais weithgareddau ychwanegol yn Llyfr nodiadau SMART i gefnogi’r adnodd gwreiddiol.
Defnyddiais offer Bwrdd SMART (fel yr offer camera) i dynnu manylion taflenni gwaith er mwyn symud rhai gweithgareddau oddi ar y papur i’m bwrdd gwyn rhyngweithiol i gael mwy o drafodaeth grŵp.
Effaith a Chanlyniad
Rhoddodd y gweithgaredd hwn gyfle ardderchog i’m dosbarth ddechrau archwilio materion sy’n wynebu pobl yng Nghymru heddiw.
Cyfrannodd y gwaith tuag at ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol.
Rhoddodd y gweithgaredd hwn ddigon o gyfle i ddefnyddio’r hyn roeddent wedi’i ddysgu i fyfyrio ar sefyllfaoedd yn eu rhan nhw o Gymru.
Adnoddau Eraill
Fersiynau Llyfr nodiadau SMART o’r gweithgareddau.
Gwersi a Ddysgwyd
Erbyn meddwl, hwyrach y gwnaf ymestyn y gweithgaredd hwn drwy ddod o hyd i luniau lleoliadau arfaethedig neu leoliadau gwirioneddol eraill. Yna gallaf rannu’r dosbarth yn grwpiau a rhoi lleoliad i bob grwp asesu/cymeradwyo/ hyrwyddo. Byddai hyn yn arwain at ddadl ddiddorol!