
Cartrefi - Adnabod Rhif
Ffocysau Pellach: Asesiad Cyfoedion, Arfer myfyriol,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Fel rhan o thema “cartrefi”, defnyddiwyd yr adnodd hwn gyda grwpiau o blant i ddatblygu adnabyddiaeth rhif a dealltwriaeth o broblemau rhifau o fewn 20.
Defnyddiwyd y gweithgaredd cyntaf- adnabod rhifau hyd at 10- er mwyn cefnogi grŵp o blant mewn dosbarth derbyn oedd yn parhau i gael trafferth wrth adnabod rhai o’u rhifau hyd at 10. Defnyddiwyd yr ail weithgaredd- adnabod rhifau hyd at 20- gyda grŵp o blant Blwyddyn 1 oedd yn cyflawni’n well. Roedd y gweithgareddau estynedig a pharhaus oedd wedi’u nodi yn yr arweiniad dysgu ar gael i bawb.
Effaith a Chanlyniad
Gweithgaredd 1 –
Roedd y plant wedi cwblhau llawer o weithgareddau dysgu yn ymwneud ag adnabod rhifau, ond roeddent yn parhau i gael trafferth gyda rhai o’r rhifau.Gyda’r gweithgaredd cyntaf, roedd disgwyl i blentyn adnabod y rhif o’r cyfeiriad ar yr amlen, h.y gwahaniaethu rhwng llythrennau a rhifau ac yna paru’r rhif i’r ty cywir. Roedd derbyn adborth yn syth yn fodd i gymell y disgyblion a gan mai dim ond 5 rhif oedd i’w paru pob tro, roedd y dasg yn ddigon byr i gynnal eu diddordeb.
Bu’r gweithgaredd hwn yn fan cychwyn da iawn ar gyfer y gweithgaredd ymarferol estynedig o bostio amlenni gyda rhifau arnynt i focsus wedi’u paentio fe tai; roedd yn caniatau i’r plant fabwysiadu rôl postmon y ddraig wrth bostio eu llythyrau, ac fe gadwyd eu diddordeb yn y dasg am gyfnod estynedig.
Gweithgaredd 2 –
Cafodd y plant eu herio go iawn gyda’r gweithgaredd hwn ac fe weithiodd pawb gyda’i gilydd i ddatrys y problemau ar yr amlenni.Roeddent yn hynod o falch wrth bostio’r 10 amlen i’r cyfeiriadau cywir. Cafwyd trafodaeth helaeth am gamgymeriadau wrth gyfrifo oedd yn effeithio ar ddatblygiad metawybyddol .
Adborth gan y Dysgwr
“Ro’n i’n hoffi chwarae rhan y postmon a phostio’r amlen gywir “ (Plentyn ym Mlwyddyn Derbyn)
“Roedd rhai o’r syms yn anodd iawn ond mi ges i nhw’n iawn” (Plentyn Blwyddyn 1)
“Dwi’n hoffi gallu gweithio hefo fy ffrindiau” (Plentyn Blwyddyn 1)
Adnoddau Eraill
- Bocsus wedi’u paentio fel tai i blant cael postio llythyrau iddynt.
- Snap rhif
- BeeBot a llinell rhif maint BeeBot.
- Gêm Gylch – symiau ac atebion mewn un rownd.
- Bocsus problemau – bocsus bach lliwgar hefo swm y tu mewn a Velcro ar y caead er mwyn glynu’r ateb cywir: roedd y rhain wedyn yn cael eu trefnu yn ôl y cerdyn ateb.
- Deunyddiau Naturiol– cregyn, cerrig mân, i gyd ar gyfer “chwarae” ymarferol gyda rhifau
Gwersi a Ddysgwyd
Roedd modd defnyddio’r tai yn yr ail weithgaredd fel llinell rhif. Gellid eu hatgynhyrchu fe llinell rhif yn ystod y thema “cartrefi”, a’u harddangos yn y dosbarth. Byddai’r ail weithgaredd hefyd yn addas ar gyfer plant Blwyddyn 2.