#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Gadewch i Ni Edrych ar Angenfilod Ffrwythau

Gadewch i Ni Edrych ar Angenfilod Ffrwythau

Prif Ffocysau: Cwricwlwm Cymreig ,
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau Rhifedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd a ddefnyddiwyd yn ystod sesiwn ar fwyd a siopa ac roedd cyflwyniad am ffrwythau a thynnu llun arsylwadol yn cyd-fynd yn berffaith â’r thema hon.

Wrth i’r adnodd symud ymlaen i edrych ar frasluniau o Fecsico, dechreuodd y plant archwilio bwydydd a blasau Mecsicanaidd a chan mai arlunydd o Gymru yw Alison Mercer, fe wnaethant edrych ar rai o fwydydd traddodiadol Cymru.

Effaith a Chanlyniad

Cafodd y disgyblion ddealltwriaeth o’r arlunydd o Gymru, Alison Mercer ac am ddiwylliant gwahanol Mecsico hefyd.

Fe wnaethant gymharu gwaith Alison Mercer ag arlunwyr eraill – gwaith bywyd llonydd Van Gogh a gwaith Paul Gauguin, gan felly ddatblygu dealltwriaeth o’r gwahanol arddulliau a thechnegau y mae arlunwyr yn eu defnyddio.

Adborth gan y Dysgwr

“Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud patrymau ar lawr gyda chiwbiau siwgr”

“Roedd y lluniau cwyr yn hudolus”

“Dydw i ddim yn hoffi bwyd sbeislyd”

Adnoddau Eraill

http://www.uwicpress.co.uk/primary-design-c-8.html

Gwersi a Ddysgwyd

Mae’r adnodd hwn yn symbyliad ardderchog ar gyfer gwaith arall. Byddaf yn bendant yn defnyddio’r adnoddau celf eraill o set fideo ‘Gadewch i ni Edrych’.