
Dyfalwch Pwy?
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau Rhifedd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Adnodd i gyflwyno plant Blwyddyn 2 i wahanol fathau o gwestiynu yn arwain at waith TGCh ar gronfeydd data canghennog.
Cafodd ei ddefnyddio gyda grwpiau bach a chyda’r dosbarth cyfan.
Amcanion Dysgu
Deall bod gwahanol fathau o gwestiynau y gellir eu hateb mewn gwahanol ffyrdd.
Gofyn cwestiynau sy’n cydymffurfio gyda’r rheol mai dim ond ateb ie neu nage y gellir eu rhoi.
Gwahaniaethu
Gweithgaredd 1
Ar gyfer disgyblion oedd angen arweiniad strwythuredig yn eu ffordd o feddwl neu ar gyfer disgyblion oedd yn ddarllenwyr annibynnol ac yn gallu chwarae’r gêm heb gymorth oedolyn.
Gweithgaredd 2
Ar gyfer disgyblion oedd yn datblygu’r gallu i feddwl yn rhesymegol ac oedd yn gallu gofyn cwestiynau priodol yn annibynnol.
Effaith a Chanlyniad
Yn unol â Fframwaith Sgiliau ar gyfer dysgwyr 3-19 oed yng Nghymru, fe gafodd yr adnodd hwn effaith ar:
Sgiliau Meddwl
- Cynllunio – Gofyn cwestiynau – Gofyn cwestiynau perthnasol i’r cyd-destun a gwrando cyn gofyn mwy o gwestiynau.
- Datblygu – Meddwl yn rhesymegol a chwilio am batrymau – Adnabod a disgrifio tebygrwydd a gwahaniaethau trwy wneud cymariaethau syml.
- Myfyrio - Adolygu deilliannau a Meini Prawf Llwyddiant - Cysylltu deilliannau â Meini Prawf Llwyddiant.
Llythrennedd
- Llafaredd – Datblygu gwybodaeth a syniadau
Rhifedd
- Cymharu Data – Trefnu gwrthrychau gan ddefnyddio un maen prawf neu ragor.
Wrth chwarae’r gêm annibynnol, datblygodd y plant ddealltwriaeth bod gwahanol fathau o gwestiynau sy’n gofyn am wahanol fathau o atebion a chyn bo hir dechreuasant sylweddoli pa fath o gwestiynau oedd eu hangen i gydymffurfio â’r rheol mai dim ond ateb ‘ie’ neu ‘nage’ oedd yn bosibl.
Roedd yn rhaid i’r plant wrando’n ofalus ar yr atebion a roddwyd a chwilio am debygrwydd a gwahaniaethau yn y cymeriadau a bortreadwyd yn y gêm cyn chwilio patrymau a gwrthod rhai cymeriadau’n seiliedig ar yr ateb hwnnw.
Yna roedd yn rhaid iddynt chwilio am debygrwydd a gwahaniaethau yn y cymeriadau oedd yn weddill cyn ffurfio cwestiwn newydd yn seiliedig ar eu harsylwadau.
Roeddent yn gallu adolygu eu canlyniadau ar y cyd wrth i’r gêm fynd yn ei blaen ac roedd y plant yn cywiro dull o feddwl ei gilydd. Ar ddiwedd y gêm roeddent yn gallu gweld a oeddent wedi dyfalu’r cymeriad cywir.
Gyda’r gêm o dan arweiniad roedd y pwyslais mwy ar y meddwl rhesymegol a chwilio patrymau.
Adborth gan y Dysgwr
“Mae hwn yn debyg iawn i ‘Dyfalwch Pwy?’
“Allwn ni ei chwarae eto?”
Roedd y plant yn ymwneud yn llwyr â’r adnodd ac roeddent yn amlwg yn dysgu trwy chwarae – sef ethos y Cyfnod Sylfaen
Adnoddau Eraill
- Arddangosfa ystafell ddosbarth o luniau’r plant wedi’u gosod fel adnodd GCaD.
- Adnodd ar-lein ‘Dyfalwch fy Rhif’ (cyswllt isod)
- Amrywiaeth o wisgoedd a chyfwisgoedd gwisgo i fyny yn yr ardal chwarae rôl.
Gemau bwrdd Dyfalwch Pwy?
Gwersi a Ddysgwyd
Mae angen arweiniad oedolyn ar y cychwyn i sicrhau bod y plant yn gyfarwydd â rheolau’r gêm ac i ddangos iddynt sut i adlewyrchu eu dull o feddwl yn unol â’r ffordd y datblygwyd yr adnodd i weithio.
Mae angen arweiniad oedolyn gyda Gweithgaredd 1 lle nad yw’r plant yn ddarllenwyr hyderus, er pan fyddant mewn cyfnod lle mae eu meddwl wedi datblygu digon i allu chwarae’r gêm yn effeithiol mae’n fwy tebygol y byddant hefyd yn gallu darllen yr hyn fydd yn ymddangos ar y sgrin.