
Her Bwytan Iach
Ffocysau Pellach: DMaAGD, Sgiliau Rhifedd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiwyd yr adnodd “Salad Ffrwythau Ymhell i Ffwrdd” er mwyn cyflwyno nifer o heriau Bwyta’n Iach a gwblhawyd gan y disgyblion dros nifer o wythnosau.
Mae ein hysgol ni yn “Ysgol Iach” gydnabyddedig, ac roedd yr heriau’n rhan o’r “Mis bwyta’n iach” yn yr ysgol
Roedd gan y disgyblion gyfle i gysylltu hyn gyda delio â data, ymchwil ar y we, y corff dynol, dull byw iach ac animeiddio. Cyflwynodd y disgyblion waith ar draws nifer o feysydd a phynciau eraill gan ddefnyddio nifer fawr o raglenni ac adnoddau. Cafodd rhai disgyblion gyfle i ddefnyddio adnoddau eraill, wedi’u seilio ar yr un thema o wefan GCaD Cymru. Defnyddiodd y disgyblion yr adnodd mewn sesiynau eraill ar hyd y mis gan gysylltu gyda DT( gwneud salad ffrwythau/kebabs ffrwyth)
Effaith a Chanlyniad
Roedd yr adnodd hwn yn gallu cael ei ddefnyddio’n syth gan y grwp o ddisgyblion a dargedwyd. Roedd ganddo ddyluniad syml oedd yn ei wneud yn hawdd i’r disgyblion i ddeall yr wybodaeth a gyflwynwyd, ac fe arweiniodd at awr o drafodaeth mewn grwp o ddisgyblion sydd yn aml y rhai olaf i gyfrannu. Gan fod yr adnodd mor hawdd i ddisgyblion ei ddefnyddio, roeddent yn teimlo’n hyderus bod ganddynt ddigon o wybodaeth i gychwyn eu prosiect unigol/grwp yn y modd y dymunent. Gan fod y disgyblion yn gweld yr wybodaeth a gyflwynwyd yn gofiadwy, fe gafodd hyn effaith ar sgiliau yn syth; doedd y disgyblion ddim yn poeni am gynnwys eu cyflwyniad ac, felly, yn gallu treulio mwy o amser yn mireinio eu sgiliau ac ansawdd eu gwaith.
Adborth gan y Dysgwr
“Ron i wrth fy modd gyda’r ffaith bod yr wybodaeth mor glir- roedd hyn yn help imi i’w gofio yn nes ymlaen, a doeddwn i ddim yn poeni am anghofio pethau”
‘Don i erioed wedi meddwl o’r blaen am le yr oedd ffrwythau yn dod , ac fe ges i fy synnu gan yr wybodaeth”
“Mi allwn i dreulio mwy o amser ar fy nghyflwyniad gan mod i’n cofio yr holl bethau a siaradwyd amdanynt cyn hynny. Dwi’n meddw bod fy ngwaith yn llawer gwell nag o’r blaen”
Adnoddau Eraill
Prif Adnodd : Salad Ffrwythau Ymhell i Ffwrdd . Defnyddiodd rhai grwpiau yr adnodd: Y Corff Dynol a Bwyta’n Iach
Roedd y disgyblion yn gallu cyrchu’r adnoddau yn syth trwy lwybr byr ar rwydwaith yr ysgol ac Eportal, ac roedd modd eu defnyddio i gasglu gwybodaeth neu ysgogi rhagor o drafodaeth mewn grwpiau bychain( weithiau gyda chefnogaeth gan oedolyn)
Roedd hyn yn ei gwneud hi’n hawdd i’r disgyblion i “daro heibio’r” adnoddau neu ail-adrodd y syniadau a gyflwynwyd yn eu hamser eu hunain.
Yn ychwanegol i hyn, defnyddiwyd y canlynol: Microsoft PowerPoint, Microsoft Publisher, Microsoft Excel, Microsoft Word , Ript, Windows Movie Maker, Crazy Talk, Audacity, Prezi, Lino it
Gwersi a Ddysgwyd
Roedd y sesiynau blaenorol wedi’u gosod ar adnoddau yr oeddwn wedi eu creu fy hunan, yn bennaf gan fy mod i’n teimlo nad oedd digon o adnoddau o ansawdd ar gael. Rwy’n deall bellach nad oes angen treulio oriau yn creu adnoddau o’r newydd gan fod yma adnoddau gwych i gefnogi fy nysgu, ar gael trwy gyfrwng y safle. Roeddwn i hefyd yn teimlo bod cael cyfle i redeg y prosiect dros gyfnod hwy( 3-5 wythnos- yn hytrach na her pythefnos) yn golygu bod gan y disgyblion mwy o gyfle i ddatblygu syniadau a myfyrio arnynt,
Roedd yr ystod amser hon hefyd yn cynnig mwy o gyfle iddynt weithio ar wella a mireinio'r sgiliau TGC a dargedwyd ganddynt. O hyn allan, rwy’n bwriadu cynllunio llawer mwy o dasgau pen agored neu dasgau tymor hir, fel bod gan ddisgyblion amser i ddatblygu ym mha bynnag ffordd a ddewisir ganddynt. Roeddwn i hefyd yn teimlo bod y plant yn meddiannu eu dysgu eu hunain gan eu bod yn cael eu tanio cymaint trwy ddefnyddio’r adnodd. Roedd yn wych gweld disgyblion sydd fel arfer yn dewis torri a gludo gwybodaeth o’r we, yn dechrau sgwennu eu sgriptiau eu hunain ar gyfer animeiddio a dylunio eu cymeriadau clip awto eu hunain; gan ddysgu am rwpio gwrthrychau ac arbed eitemau fel lluniau i’w defnyddio mewn rhaglenni eraill.
Roedd disgyblion am ddatblygu eu sgiliau TGC fel bod eu gwaith yn edrych ar ei orau, ac roedd hynny yn wych i’w weld!