#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Harri’r Wythfed - gwerthuso ffynhonnell

Harri’r Wythfed - gwerthuso ffynhonnell

Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Dysgu wedi’i Bersonoli, Mwy galluog a thalentog, Dysgu Estynedig, Cynhwysol, Sgiliau Llythrennedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd y gweithgareddau i ddangos sut mae disgyblion yn gwerthuso ffynonellau hanesyddol ac i annog astudio annibynnol; sgiliau sy’n hanfodol o ran cynnal ymchwiliad hanesyddol.

  • Defnyddiais yr anodd mewn un wers. Cafodd ei ddefnyddio fel rhan o dasg ehangach sef, ymchwiliad hanesyddol i p’un a oedd Harri’r Wythfed yn haeddu cael ei gofio fel ‘Brenin Mawr.’ Esboniodd y gweithgaredd y broses o ddadansoddi un ffynhonnell hanesyddol i’r disgyblion sef, delwedd o Harri’r Wythfed yn yr achos hwn.
  • Roeddwn am herio’r disgyblion i ddod o hyd i atebion drostynt eu hunain ac ymgorffori sgiliau meddwl yn y wers.
  • Roeddwn hefyd am ddefnyddio gweithgarwch difyr a heriol i annog y disgyblion i ddatrys problemau.
  • Roedd disgyblion eisoes wedi dechrau’r ymchwiliad hanesyddol ac roedd y sgiliau angenrheidiol wedi’u cyflwyno i’r disgyblion. Darparwyd pecyn ffynonellau ar eu cyfer hefyd i’w ddefnyddio fel rhan o’r ymchwiliad.
  • Rhannwyd y gweithgaredd yn bedair rhan a oedd yn galluogi disgyblion i ddadansoddi’r ffynhonnell hanesyddol.
  • Gofynnodd y gweithgaredd cyntaf i ddisgyblion ystyried yr hyn y byddent yn hoffi ei ganfod am y ddelwedd. Cwblhaodd disgyblion weithgaredd paru a rhannu i feddwl am yr hyn roeddent am ei wybod. Roedd hwn yn dda gan fod disgyblion yn rhoi cymorth da i’w gilydd. Dywedwyd wrth y disgyblion am feddwl am y 5 W. Gwnaeth disgyblion rannu’r cwestiynau hyn gyda’r dosbarth a dywedwyd wrthynt y byddem yn edrych ar y rhain ar ddiwedd y wers.
  • Gwnaeth y gweithgaredd nesaf annog disgyblion i ddadansoddi’r ddelwedd a rhoddodd gyfarwyddyd ar ffurf pedwar cwestiwn. Roedd y chwyddhadur yn galluogi disgyblion i ystyried atebion mewn parau cyn i wybodaeth gael ei rhannu drwy’r gweithgareddau a welwyd drwy’r botwm HELP. Roedd hwn yn rhyngweithiol ac yn galluogi disgyblion i reoli’r gweithgaredd. Dewisais ddisgyblion gwahanol i ddefnyddio’r bwrdd gwyn ac anogais gymaint o ddisgyblion â phosibl i roi atebion a chofnodi syniadau ar y bwrdd. Fe wnaeth ddifyrru’r disgyblion.
  • Yna gofynnwyd i ddisgyblion ystyried cryfderau a gwendidau’r ffynhonnell. Gweithiodd y disgyblion mewn parau yn gyntaf cyn rhannu eu syniadau gyda’r dosbarth. Yna rhoddodd y gweithgaredd fwy o wybodaeth i’r disgyblion drwy roi gwybodaeth gyd-destunol iddynt am darddiad y ffynhonnell. Roedd hyn yn dda gan ei fod yn dangos i’r disgyblion pa mor bwysig yw dod o hyd i wybodaeth am darddiad ffynonellau hanesyddol.
  • Ar ddiwedd y dasg, gofynnwyd i’r disgyblion ystyried pa mor ddefnyddiol oedd y ffynhonnell, yn eu tyb nhw.
  • Fel sesiwn lawn, gofynnwyd i ddisgyblion edrych yn ôl ar eu cwestiynau gwreiddiol a thrafod faint ohonynt a atebwyd.
  • Gosodwyd gwaith cartref lle y gofynnwyd i’r disgyblion gwblhau elfennau’r gweithgareddau lle roedd angen syniadau ysgrifenedig. Gwnaed hyn gan ddefnyddio’r PowerPoint gyda’r swyddogaeth teipio a gafodd ei lwytho i rith-amgylchedd dysgu’r ysgol.

Effaith a Chanlyniad

  • Gwnaeth y gweithgareddau hyn feithrin datblygu sgiliau meddwl a dysgu ehangach disgyblion o bob gallu.
  • Roedd disgyblion yn gallu ymestyn eu geirfa a chael dealltwriaeth o dermau a chysyniadau hanesyddol. Roedd hyn yn golygu bod disgyblion yn gallu gwneud gwaith o ansawdd uwch ac roeddent yn gallu ehangu eu gwybodaeth hanesyddol.
  • Roedd y disgyblion yn gadarnhaol iawn a gwnaethant fwynhau’r heriau roedd datrys problemau’n eu cynnig drwy ddefnyddio adnoddau rhyngweithiol. Roedd hyn yn helpu i wella gallu i ganolbwyntio a diddordeb.
  • Roedd y gweithgareddau’n galluogi disgyblion i weithio’n annibynnol gan hybu cymorth i gyfoedion. Roedd hyn yn digwydd wrth i ddisgyblion gael eu hannog i weithio mewn grwpiau a rhannu syniadau. Gwnaeth disgyblion wrando’n fwy astud ar eu cyfoedion.
  • Anogwyd annibyniaeth gan fod swyddogaethau hunanwirio i lawer o’r gweithgareddau. Gwnaeth hyn ysgogi disgyblion gan wneud dysgu’n hwyliog. Roedd disgyblion yn gallu gwerthuso eu canlyniadau eu hunain a gweithredu ar hyn.
  • Cafodd disgyblion mwy galluog a thalentog y cyfle i ddatblygu trywydd meddwl ac i gyflwyno eu syniadau drwy gyfathrebu ysgrifenedig.
  • Cafodd disgyblion uwch eu cyrhaeddiad gyfleoedd i gyflawni’n fwy drwy’r gweithgareddau creadigol a gynigiwyd.
  • Nid oedd angen addasu’r gweithgaredd a gellid ei ddefnyddio gan ei fod yn gynhwysfawr iawn. Roedd y swyddogaeth hefyd yn syml a oedd yn golygu ei bod yn hawdd i ddisgyblion ei defnyddio.

Adborth gan y Dysgwr

“Roedd y gweithgareddau’n hwyliog ond gwnaethom ddysgu hefyd.”

Gwersi a Ddysgwyd

Sicrhewch eich bod yn amseru’r gweithgaredd yn briodol. Gellid defnyddio generadur enwau ar hap i ddewis disgyblion gwahanol a sicrhau bod pob disgybl yn cael eu cynnwys.