#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Rhifau Mawr

Rhifau Mawr

Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Cynhwysol, Asesiad Cyfoedion, Sgiliau Rhifedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr adnodd hwn fel y gweithgaredd cychwynnol a gweithgaredd clo i wers ar ‘Y Ffurf Safonol’.

Wrth i’r disgyblion ddod i mewn i’r ystafell ddosbarth a thra bo’r gofrestr yn cael ei galw roedd yr ugain cwestiwn animeiddiedig yn cael eu chwarae yn y cefndir ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol. Roedd hyn yn hawlio diddordeb y disgyblion yn syth ac yn canolbwyntio eu sylw ar flaen y dosbarth.

Effaith a Chanlyniad

  • 1Roedd y gweithgaredd yn hawlio diddordeb y disgyblion yn syth. Roeddent yn frwd i gyfranogi ac i rannu eu syniadau o fewn eu grwpiau bach.
  • Roedd y disgyblion yn chwilfrydig ac yn gyffrous i ddarganfod yr atebion i’r cwestiynau.
  • Roedd disgyblion o bob gallu yn meddwl yn weithredol drwy gydol y gweithgaredd, yn rhesymu ac yn gwerthuso eu hatebion ac atebion disgyblion eraill.
  • Roedd cyfleoedd i ddisgyblion weithio gydag eraill, gwrando, trafod a chasglu syniadau i gytuno ar ateb.  Roedd disgyblion yn sensitif i eraill ac yn defnyddio beirniadaeth adeiladol.         
  • Roedd defnyddio byrddau gwyn bach yn sicrhau bod pob disgybl yn gallu cymryd rhan ac roedd yn ‘rhaid’ i bob disgybl wneud penderfyniad terfynol.
  • Roedd cyfleoedd i ddisgyblion ymarfer eu sgiliau rhifedd wrth iddynt ysgrifennu rhifau mawr a hefyd wrth iddynt ddweud y rhifau. Yn y sesiwn gloi roedd cyfle hefyd i ehangu’r gweithgaredd a’u rhifedd drwy ysgrifennu’r rhifau mawr ar ffurf safonol.                       

Adborth gan y Dysgwr

Roedd y disgyblion yn dangos diddordeb ac yn cael eu symbylu drwy gydol y wers. Roedd y cwestiynau yn y gweithgaredd yn ddiddorol ac roedd y disgyblion yn frwdfrydig i rannu eu syniadau gyda’i gilydd ac i ddarganfod yr atebion cywir.

Adnoddau Eraill

Posau jig-so tarisa wedi’u lamineiddio. Pennau a byrddau bach gwyn.

Gwersi a Ddysgwyd

Gellid addasu’r gweithgaredd a’i ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n addas i’w ddefnyddio gyda disgyblion o wahanol oed a gallu i ategu amrywiaeth o destunau ‘Rhif’.