
Ymchwiliad Ardal Leol
Ffocysau Pellach: Asesiad Cyfoedion, Cwricwlwm Cymreig , Sgiliau Llythrennedd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Cyflwyniad i ymchwiliad ardal leol a pha nodweddion ddylai cael eu defnyddio wrth wneud ffilm fer am yr ardal.
Prif ran yr adnodd a ddefnyddiwyd oedd Gwers 3 – Edrych o Gwmpas eich Ardal Leol. Defnyddiwyd yr adnodd gyda dosbarth o 22 o blant Blwyddyn 6, yn defnyddio gliniaduron mewn parau.
- Mae gan yr ysgol ym Mhwllheli nifer o nodweddion lleol sy’n ymddangos yn yr adnodd. I fynnu atebion gan ddisgyblion, defnyddiwyd ffyn lolipop a gofynnodd yr athro gwestiynau cychwynnol i feithrin ymwybyddiaeth o’r nodweddion tebyg, megis:
‘Pa nodweddion rydych chi’n eu gweld sy’n debyg i’ch ardal chi?’ i gadarnhau eu gwybodaeth am yr ardal leol.
‘Pam adeiladwyd tref (nodwedd ddynol) yma?’ i weld a yw’r plant yn deall pam mae rhai nodweddion o’r ardal yn ymddangos fel maent.
‘Beth sy’n gwneud ‘Pwllheli’ yn lle da i fyw ynddo/i ymweld ag ef?’
‘Pam mae pobl yn dod yma? Tymor hir, tymor byr?’ - Gofynnwyd i’r disgyblion ddosbarthu’r nodweddion dynol a ffisegol i’w dau grwp. Dywedwyd hefyd wrth y disgyblion bod yn rhaid iddynt, gyda’u partner meddwl, feddwl am gwestiwn perthnasol i bâr arall o blant ynglyn â’r nodweddion ffisegol a dynol.
- Rhoddodd ffocws da i’r disgyblion a chyflwynwyd y Cwricwlwm Cymreig ynghylch arwyddion ffyrdd a chyfieithu.
- Yna, rhoddwyd cyfarwyddiadau i’r disgyblion sut i ddefnyddio a threfnu’r adnoddau a gasglwyd ganddynt yn flaenorol i Windows Movie Maker. Gofynnodd yr athro ‘Allwch chi greu ffilm sy’n dangos nodweddion ein hardal leol i eraill?’ (Synthesis). Cyfeiriwyd y disgyblion at yr eirfa ddaearyddol o’r adnodd eto.
- Gofynnwyd i’r disgyblion adrodd yn ôl i barau eraill yn y dosbarth ynglyn â pha eirfa fydden nhw’n ei defnyddio o bosib wrth adrodd y ffilm fer. Cyfeiriodd yr athro at y gweithgaredd dosbarthu eto i atgoffa’r disgyblion o’r eirfa y gallen nhw ei defnyddio.
- Ar ôl 30 munud, dangosodd yr athro rannau o adnodd rhif 5: Gwaith yn yr Ardal Leol. Gofynnwyd i’r disgyblion ddadansoddi’r wybodaeth pam fod pobl yn cael gwaith penodol yn ôl map o’r harbwr ac a oedd unrhyw debygrwydd a’u hardal eu hunain. Gofynnodd yr athro rai o’r cwestiynau sydd wedi’u hymgorffori yn yr adnodd, megis: ‘Pa waith y gellir ei wneud yn y ddau le?’ a ‘Allwch chi feddwl am unrhyw waith arall y gellir eu gwneud yn y dref neu’r harbwr?’ Yn y fan hon gweithiodd y disgyblion mewn parau i drafod hyn ac adrodd yn ôl i’r grwp gyda syniadau am eu hardal eu hunain.
- Fel asesiad cyfoedion, dangosodd y disgyblion eu ffilm i bartneriaid eraill a rhoddodd y disgyblion ddwy seren a dymuniad llafar.
- Dewisodd yr athro barau i ddangos eu ffilm. Pan ddangoswyd pob ffilm fer, cwestiynodd yr athro’r disgyblion gyda chwestiynau megis, ‘Pa mor llwyddiannus oedd eich dull?’ a ‘Beth allwch chi ei ychwanegu i wella’r ffilm’ i werthuso ymdrechion y disgyblion. Rhoddodd y disgyblion adborth cadarnhaol a thrafod peth o’r eirfa dechnegol oedd ei hangen i gwblhau’r ffilm.
Effaith a Chanlyniad
- Rhoddwyd ffocws i’r disgyblion wrth i’r athro eu cyfeirio at eirfa nad oeddent wedi’i defnyddio’n flaenorol.
- Roedd y disgyblion yn ymgysylltu â’r strategaethau cwestiynu, fe gynorthwyodd yr adnodd hwn trwy ei natur weledol gref.
- Ysgogwyd trafodaeth mewn partneriaid meddwl drwy ddefnydd o’r adnodd.
- Roedd modelu sut i drefnu syniadau mewn grwpiau gwahanol yn fuddiol, yn enwedig i grwp o fechgyn a gafodd y dasg hon yn anodd ar y dechrau.
Adborth gan y Dysgwr
Rhoddodd y disgyblion adborth cadarnhaol i’r adnodd a chytunon nhw ei fod yn ddefnyddiol i drefnu eu syniadau ar gyfer ffilm i rannau gwahanol gan ddefnyddio termau daearyddol.
Roedd y disgyblion yn hoffi natur yr adnodd a chytunon nhw ei fod yn lliwgar ac yn hwyl i’w ddefnyddio.
Fe wnaeth y plant fwynhau’r gweithgareddau dosbarthu a gwneud penderfyniadau.
Adnoddau Eraill
Gliniaduron, Windows Movie Maker, adnoddau – clipiau ffilm, clipiau clywedol, delweddau digidol, ffeiliau sain mp3 lgfl rhwydwaith Glywedol.