#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Looking at India

Looking at India

Prif Ffocysau: Arfer myfyriol, Sgiliau Llythrennedd,
Ffocysau Pellach: Dwyieithrwydd, Dysgu Estynedig, DMaAGD,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr adnodd bwrdd gwyn yma er mwyn cymharu Cymru gydag India.

Defnyddiwyd India1.flp ac roedd gweddill yr uned o waith yn rhoi fframwaith i weithgareddau’r tymor.

Gweithgaredd 1

Dangos map y byd ar y bwrdd gwyn.  Holi cwestiynau a defnyddio geirfa ddaearyddol wrth ddisgrifio’r hyn allent weld.

Gweithgaredd 2

Annodi copi o fap y byd gydag arsylwadau personol y disgyblion. Tasg agored i sbarduno llawer o drafod mewn grwp.

Gweithgaredd 3

Creu amlinelliad o India o’r côf a defnyddio syniadau Grid Meddwl.

Tasgau Amrywiol:

  • Mapio taith o Gymru i India gan ddefnyddio Google Earth a Google maps fel ffynonellau gwybodaeth.
  • Annodi a dysgu am wahanol fathau o fapiau.
  • Tasgu syniadau am fapiau.

Fel dosbarth, labeli gwledydd o gwmpas India er mwyn ychwanegu at y darlun (tudalen 6 a 7 o’r

Gwaith cylch i gasglu syniadau a chwestiynau’r disgyblion

Effaith a Chanlyniad

Roedd cyfleodd arbennig yma i asesu dealltwriaeth trwy’r gweithgareddau ac yn fwy na dim yn ystod y trafodaethau a gafwyd gyda’r dosbarth a’r grwpiau.Datblgwyd sgiliau llythrennedd wrth ddefnyddio, trafod a chyflwyno geirfa berthnasol a thargedwyd dwyieithrwydd yn sgîl hyn hefyd. Roedd cyfleoedd dysgu estynedig yma wrth i ddisgyblion holi ac ateb cwestiynau ei gilydd. Rhoddwyd tasg estynedig fel gwaith cartref yn dilyn y wers wrth i ddisgyblion chwilio am ateb i un cwestiwn a ofynwyd. Wrth weithio ar dasgau unigol, grwp a dosbarth mae’r disgyblion yn arfer â gweithio’n fyfyriol ac yn cael cyfle fel yn y wers hon i drafod eu gwaith. Mae ffocws glir ar ddefnyddio TGCh trwy’r defnydd o adnoddau GCaD ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol ac ar gyfrifiaduron y dosbarth. Mae cyfathrebu’n cael ei ddatblygu trwy fodelu geirfa a phatrymau llafar da, gofyn cwestiynau heriol a sgiliau gwrando. Bydd y wers ganlynol yn rhoi sylw i rifedd wrth ddatblgyu gweithgareddau cyfesurynau, graddfa a phellter mewn perthynas a’r mapiau sydd yng ngweithgareddau GCaD.

Adborth gan y Dysgwr

“Dw i wir yn hoffi’r thema hwn er mai dim ond un gwers ry’ ni wedi ei gael!”

“Dw i ddim yn gwybod llawer am India. Dwi’n falch cael dsygu am rywbeth newydd.”

“Dwi’n hoffi gwersi fel ar ddechrau’r tymor achos does dim rhaid mod i’n gwybod dim ond mae’n bwysig mod i’n gofyn cwestiynau da er mwyn dysgu.”

Adnoddau Eraill

Cyflwyniad ‘Looking at India’ ActivInspire

Targedau’r Wers

Grid Meddwl

Google Earth

Google Maps

Taflen waith ‘Edrych ar Fapiau’

Map y Byd

Gwersi a Ddysgwyd

Mae tasgau penagored yn ddechrau da i waith y tymor a bod cyfle da i asesu dealltwriaeth cychwynol y disyblion. Wrth ddysgu’r wers, mae angen bod yn hyblyg fel athrawes i ddilyn trywydd syniadau’r plant ac i adnabod eu profiadau blaenorol.

Mae nifer fawr o weithgareddau cychwynnol defnyddiol ar wefan GCaD ar gyfer Byw mewn Gwledydd Eraill sy’n ymdrîn ac yn adnabod cyfandiroedd a lleoli gwledydd.

‘Fy Myd, Dy Fyd – Cymru a Ghana’

‘Lleoliadau Cyferbyniol – Golwg ar…’