
Edrych ar Siapiau
Ffocysau Pellach: Arfer myfyriol, Cynhwysol, Asesiad Cyfoedion, DMaAGD, Cyflawniad Bechgyn,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiwyd nifer o weithgareddau cychwynnol a gweithgareddau cloi a fyddai’n cael y disgyblion i ymwneud â’r gwaith a dangos diddordeb ynddo.
Defnyddiwyd yn enwedig elfennau o gystadleuaeth rhwng grwpiau a pharau.
Astudiais y cynlluniau gwaith a dod o hyd i feysydd lle gallai adnoddau rhyngweithiol gael eu gweithredu’n llwyddiannus.
Daw’r gweithgareddau o feysydd Siâp, Gofod a Mesur y cwricwlwm ac fe’u hanelir at ddosbarthiadau CA3.
Mae gweithgareddau Pythagoras wedi cael eu defnyddio yng Nghyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4.
Effaith a Chanlyniad
Mae effaith weledol yn uchel – mae gan y disgyblion ddelwedd weledol glir o’r hyn mae’n rhaid iddyn nhw ei wneud gan sicrhau dealltwriaeth gliriach. Mae addysgu a dysgu yn fwy effeithiol.
Mae elfen gref o gwestiynu a thrafod i’r siart troi, yn arwain at elfen fwy o ddysgu annibynnol o ran y disgyblion.
Mae’r project wedi bod o fudd i’r dysgwyr yn fy nosbarthiadau drwy eu cael i ymwneud mwy â’u dysgu eu hunain, a dod yn fathemategwyr mwy brwd.
Mae gwahodd disgyblion at y bwrdd gwyn rhyngweithiol neu roi iddynt dabled ddiwifr i ysgrifennu arni yn hyrwyddo agweddau mwy positif (yn enwedig y bechgyn) gan eu bod yn hoffi gweithio gyda’r dechnoleg.
Mae creu cystadleuaeth bositif wedi cael effaith galonogol ar y rhan fwyaf o ddysgwyr, yn enwedig bechgyn!
Adborth gan y Dysgwr
Mae bechgyn yn hoffi’r elfen gystadleuol.
Gwersi a Ddysgwyd
Mae cyflwyno elfen gystadleuol i wersi yn cael bechgyn, a fyddai fel arfer yn anodd eu cyrraedd, i ddangos diddordeb.