
Pecynnu
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Cwricwlwm Cymreig , Asesiad Cyfoedion,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Adnodd a ddefnyddiwyd fel offeryn i drafod a chynllunio cyfres o wersi ar gyfer pecynnu yn Dylunio a Thechnoleg.
Mae digon o gyfleoedd ar gyfer datblygu meddwl drwy gydol y testun a defnyddir peth offer datblygu meddwl GCaD i helpu’r broses ddylunio. Mae’r testun estynnol yn offer defnyddiol i wneud fideo sy’n hysbysebu’r cynnyrch a gellir ei ddefnyddio i werthuso’r testun cyffredinol.
Defnyddiwyd y cyflwyniadau PowerPoint i greu trafodaeth ac i ddatblygu sgiliau meddwl o fewn y dosbarth. Roeddent yn darparu ysgogiad i’r disgyblion fynd rhagddynt ac ymchwilio testun pecynnu.
Mae pob gweithgaredd yn rhoi cyfle da i bwyntiau trafod i’r disgyblion ennyn diddordeb ynddynt wrth ddatblygu eu sgiliau meddwl. Mae’r ffocws ar becynnu hefyd yn cysylltu â datblygu siâp 3D a sut i fynd i’r afael â hysbysebu cynnyrch gorffenedig.
Defnyddiodd yr athro'r cyflwyniadau PowerPoint i gyd a’r adnoddau cysylltiedig ar gyfer dylunio, cynllunio a gwerthuso’r cynnyrch a wnaed.
Effaith a Chanlyniad
- Enynnwyd diddordeb y disgyblion gan gwestiynu’r athro.
- Roedd y disgyblion yn awyddus i ddefnyddio’r adnodd a chawsant y cynllun yn ddefnyddiol i fedru gwneud nodiadau am eu syniadau.
- Mae dull gam wrth gam yr adnodd o gymorth i’r athro arwain y disgyblion a gall yr athro ddewis defnyddio peth neu’r adnodd cyfan yn ôl yr angen.
- Mae nifer o gyfleoedd ar gael i’r athro gwestiynu’r disgyblion gan ddefnyddio dulliau amrywiol yn defnyddio sgiliau meddwl trefn is ac uwch.
Adborth gan y Dysgwr
- Fe wnaeth y disgyblion fwynhau’r gweithgaredd.
- Roeddent yn gallu cwestiynu ei gilydd yn effeithiol a datblygu eu sgiliau meddwl.
- Fe wnaethon nhw fwynhau’r ffilm ac roeddent o’r farn fod yr awgrymiadau’n ddefnyddiol.
- Roedd y disgyblion yn cytuno eu bod yn gallu datblygu cwestiynau gyda chymorth yr adnodd.
Adnoddau Eraill
Ystafell Gyfrifiaduron gyda 18 cyfrifiadur personol Windows, deunyddiau gwneud nodiadau.
Gwersi a Ddysgwyd
Mae angen arweiniad neu fframwaith ar nifer o athrawon i ddatblygu syniadau/testunau Dylunio a Thechnoleg yn y dosbarth.