
Parc Cenedlaethol
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Dysgu Estynedig, DMaAGD, Sgiliau Rhifedd, Dwyieithrwydd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiwyd yr adnodd am Barciau Cenedlaethol fel rhan o uned thematig ar Gymru a gosodwyd tasgau amrywiol i ddatblygu sgiliau mapio, mesur pellter a chwilio am wybodaeth.
Beth ydych chi’n ei wybod yn barod? Asesu gwybodaeth gychwynol y disgyblion trwy dynnu llun o beth yw Parc Cenedlaethol.
Pa fath o le yw Parc Cenedlaethol? Trafod lluniau wrth ddefnyddio geirfa ddaearyddol i ddisgrifio’r tirlun.
Ble mae’r lleoedd hyn? Defnyddio cyfeiriadau’r cwmpawd a chyfeirnod grid.
Fideo o fynyddwr yn pacio ei fag. Defnyddio sgiliau arsylwi i drafod beth sy’n mynd i mewn i’r bag a pham fod angen y rhain wrth fynydda yn Eryri.
Effaith a Chanlyniad
Roedd y disgyblion yn barod iawn i wrando ar waith ei gilydd a’u werthuso. Roedd hwn yn rhan bwysig o’r dysgu gan eu bod yn gweld gwerth dysgu a chwestiynu ei gilydd. Roedd modd amcangyfrif a mesur pellter wrth sôn am Barciau Cenedlaethol a defnyddio iaith fathemategol wrth sôn am leoliadau’r cwmpawd a chyfeirnod grid. Roedd ffocws clir i’r Cwricwlwm Cymreig wrth ddatblygu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion amgylcheddol Cymru wrth son am Barciau Cenedlaethol, disgrifio lleoliadau a thirwedd Cymru. Wrth ddefnyddio’r We roedd angen i’r disgyblion ddefnyddio sgiliau dwyieithrwydd er mwyn adrodd yn ôl i’r dosbarth.
Adborth gan y Dysgwr
‘Rwy’n hoffi pan ry’ ni’n dechrau thema newydd a does dim gwahaniaeth os nad ydych chi’n gwybod llawer. Roeddwn i’n hoffi casglu syniadau gyda’n gilydd ar y bwrdd gwyn.’
‘Rydw i’n hoffi dysgu wrth ddefnyddio lluniau a mapiau. Roeddwn i wedi dysgu llawer o eiriau newydd hefyd i ddisgrifio’r tir.’
‘Pan es i adre es i edrych am wybodaeth a lluniau am Barciau Cenedlaethol ar y Wê. Roeddwn i wedi dysgu am wledydd newydd a sut maen nhw’n edrych ar ôl eu gwlad nhw.’
Adnoddau Eraill
- Cyflwyniad Eryri (Ppt)
- Taflen Geirfa i ddisgrifio llun
- Taflen Wybodaeth y Parciau Cenedlaethol
- Lluniau a gridiau
- Enghraifft o fapio pellter
- Enghraifft o fapio taith i Eryri
- Recordio’r daith ar sgrin
- http://www.nationalparks.gov.uk (Mapiau, lluniau a gwybodaeth)
Gwersi a Ddysgwyd
Byddai wedi bod o fydd defnyddio’r gweithgaredd gyntaf mewn gwers flaenorol ac edrych ar Barciau Cenedlaethol Cymru’n gyffredinol gyntaf cyn ffocysu ar Eryri.
Roedd gweithgareddau amrywiol o fewn y dosbarth yn rhoi hwb i’r dysgu ac roedd llawer o gyfle i’r disgyblion i ddysgu’n annibynnol.
Gellid datblygu sgiliau cwmpawd a chyfesurynnau’r disgyblion ochr yn ochr â’r gweithgareddau hyn.(Gweler ‘LLuniau a Gridiau’ (ActivInspire) i gael enghreifftiau o gridiau.)