#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Parri Popeth

Parri Popeth

Prif Ffocysau: Sgiliau Rhifedd,
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Cynhwysol, DMaAGD,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Gweithgareddau Parri Popeth yn Pentre Bach yn cael eu defnyddio i ddatblygu sgiliau rhifedd a mathemategol y plant.

Cyflwynais y gwaith yn ystod tymor yr Hydref felly roedd yn ategu at ein paratoadau ar gyfer y Nadolig yn berffaith.

O ran y ddwy wers, cyflwynais y gweithgareddau drwy stori a gwelais fod sgiliau llythrennedd a gwrando’r plant yn cael eu datblygu hefyd.

Cwblhaodd y plant weithgareddau adnabod darnau arian a chyfrif drwy’r stori, gweithgareddau rhyngweithiol a chwarae rôl yn ystod y wers gyntaf.

Gwnaethant ddatblygu eu gallu i ailadrodd a chreu patrymau yn yr ail wers drwy greu eu papur lapio eu hunain.

Effaith a Chanlyniad

  • Yn bur anaml y gallwch ddefnyddio gweithgaredd mathemategol i ddatblygu sgiliau llythrennedd, ond mae cyflwyno’r wers drwy stori y gall y plant ei dilyn a rhyngweithio â hi’n ffordd wych, nid yn unig o’u difyrru a rhoi cyd-destun i’w dysgu, ond hefyd o’u hannog i ddarllen am reswm.
  • Rhoddodd y gweithgaredd arian ddigonedd o ymarfer iddynt o ran defnyddio darnau arian gan eu helpu i gysylltu’r darnau arian a phrynu nwyddau â’i gilydd.
  • Gwnaeth natur y gweithgareddau a grwpio’r plant helpu i ddatblygu eu ffordd o feddwl a gwnaeth trafodaethau mewn parau/grwpiau ddwysau eu gwybodaeth am arian.
  • Roedd natur y gweithgareddau a’r ffaith bod un yn weithgaredd rhifiadol tra bod y llall yn weithgaredd siapau a phatrymau’n golygu y gallai pob plentyn yn y dosbarth gyflawni’n uchel yn un o’r gweithgareddau. Gwelaf yn aml fod gan blant nad ydynt yn perfformio mor dda’n rhifiadol, ddawn arbennig o ran gweld pethau mewn patrymau ac ati.
  • Roedd chwarae rôl yn caniatáu i’r plant atgyfnerthu eu gwybodaeth am arian.
  • Roedd y ffaith bod y gweithgareddau ar-lein yn golygu bod llawer o blant wedi mynd adref gan rannu’r straeon gyda’u rhieni.

Adborth gan y Dysgwr

‘Rwyf wedi mwynhau darllen y straeon gyda’m hwyr yn fawr iawn – ac roeddwn wrth fy modd ei fod yn dangos i mi sut i wneud y gweithgareddau’

‘Yr hyn roeddwn yn hoffi ei wneud fwyaf oedd y papur lapio’

‘Roeddwn yn hoffi helpu Parri Popeth i brynu ei anrhegion’

Adnoddau Eraill

Arian plastig, siop chwarae rôl, stori PowerPoint

Gwersi a Ddysgwyd

Rwy’n meddwl bod anfon dolenni gwe adref gan ganiatáu i rieni fod yn gysylltiedig â’r gweithgareddau rydym wedi bod yn gysylltiedig â nhw yn y dosbarth wedi gweithio’n dda iawn a hoffwn wneud mwy o hyn. Roedd y plant yn mwynhau esbonio i’w rhieni yr hyn roedd angen iddynt ei wneud – daethant yn athro yn hytrach na disgybl i bob pwrpas.