
Streic y Penrhyn
Ffocysau Pellach: Mwy galluog a thalentog, Sgiliau Llythrennedd, Cynhwysol, Dysgu Estynedig,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Cafodd yr adnoddau eu defnyddio i helpu disgyblion wrth ddadansoddi dau ddehongliad hanesyddol gwahanol o Streic y Penrhyn, a phwy oedd yn gyfrifol am hwyhau’r streic.
- Roeddwn am herio’r disgyblion i gael hyd i atebion drostynt eu hunain.
- Roeddwn eisiau defnyddio gweithgaredd ysgogol a heriol i danio dychymyg y disgyblion, a defnyddio gwybodaeth flaenorol i ddatrys problemau.
- Roedd y disgyblion yn gweithio fel unigolion ond roeddent yn cael eu hannog i weithio gyda phartneriaid i baru a rhannu.
- Defnyddiais 5.1 i gyflwyno’r dasg i’r dosbarth a thrafod beth yr oedd disgwyl iddynt ei wneud. Yn dilyn hynny, cyflwynais y ffynonellau gan annog y dosbarth i drafod yr hyn yr oeddent wedi ei ddysgu trwy edrych ar y dehongliadau gwahanol . Yna, gofynnais i ddisgyblion i agor 5.3 (wedi’i lwytho ar VLE a’r fewnrwyd) fe bod modd iddynt ddadansoddi’r dehongliadau trwy weithio trwy’r gweithgareddau. Mae Fersiwn 5.3. yn caniatáu i ddisgyblion i deipio eu hatebion ac argraffu eu gwaith.
- Anogwyd y disgyblion i ddefnyddio’r adnodd gartref gan eu bod ar gael trwy’r VLE.
- Anogwyd dysgu annibynnol gan fod y disgyblion yn gallu gweithio trwy’r gweithgaredd heb fawr o help gennyf i.
- Roedd y disgyblion yn darparu cefnogaeth gyfoed dda i’w gilydd gan yr anogwyd hwy i baru a rhannu syniadau.
- Ar ddiwedd y dasg, gofynnwyd i’r disgyblion ystyried beth yr oeddent wedi’i ddysgu a sut y gellid defnyddio gweithgaredd tebyg wrth adolygu pynciau eraill sy’n cael eu hastudio.
Effaith a Chanlyniad
- Mae’r gweithgareddau yn caniatáu i ddisgyblion weithio’n annibynnol ac yn rhoi adborth yn syth gan fod adnodd wirio gyda’r holl adnoddau rhyngweithiol. Roedd hyn yn fodd i gymell y disgyblion a gwneud y broses ddysgu yn un hwyliog Roedd disgyblion yn gallu gwerthuso eu canlyniadau a gweithredu arnynt..
- Rhoddwyd hwb i ddysgu annibynnol gan fod disgyblion yn gallu cyrchu adnoddau a deunyddiau gartref.
- Roedd y disgyblion yn bositif iawn am y profiad gan fwynhau’r her o ateb problemau trwy ddefnyddio’r adnoddau rhyngweithiol. Roedd hyn yn helpu gwella lefelau canolbwyntio a dal sylw’r disgyblion gyda’r gwaith.
- Roedd defnyddio adnoddau gweledol apelgar yn gyfrwng i sicrhau bod disgyblion o bob lefel gallu yn cymryd rhan.
- Roedd disgyblion yn gwrando’n fwy astud ar eu cyfoedion gan yr anogwyd cyd-weithio a chefnogi wrth weithio yn yr ystafell gyfrifiadurol.
- Anogwyd dysgu annibynnol gan fod y disgyblion yn gallu gweithio gyda’i gilydd heb fewnbwn gan yr athro dosbarth.
- Rhoddwyd cyfle i ddisgyblion mwy abl a thalentog i ddatblygu eu sgiliau meddwl a chyflwyno eu syniadau trwy waith ysgrifenedig.
- Roedd disgyblion yn cyflawni’n uwch yn cael cyfleoedd i gyflawni’n uwch trwy’r gweithgareddau creadigol a gynigwyd.
- Roedd disgyblion yn gallu teipio ac argraffu ymatebion oedd wedyn yn gallu helpu’r disgyblion i strwythuro eu hymatebion ysgrifenedig
- Roedd y disgyblion yn gallu gwella safon eu hymatebion ysgrifenedig a chymhwyso termau a dyddiadau hanesyddol yn fwy effeithiol. Arweiniodd hyn at wella safon y gwaith ysgrifenedig yn gyffredinol.
- Doedd dim angen addasu’r gweithgaredd ac roedd modd ei ddefnyddio fel ag yr oedd gan ei fod yn drylwyr iawn. Roedd y cyfarwyddiadau’n glir ac felly’n hawdd iawn i’r disgyblion ei ddefnyddio.
Adborth gan y Dysgwr
“Dydi dehongliadau ddim y peth hawsaf i ddelio gyda nhw, ond mi roedd y gweithgareddau hyn yn help i wneud pethau’n fwy clir i mi.”
“Roedd y gemau hyn yn help i mi ddeall pam fod y dehongliadau wedi eu cynhyrchu.”
Adnoddau Eraill
6.1 Penrhyn-interpretation.doc
Gwersi a Ddysgwyd
Dylid sicrhau’r trefniadau eistedd mewn ystafell gyfrifiadurol ymlaen llaw fel bo gan y disgyblion y partneriaid dysgu priodol.
Unwaith y cyflwynir y gweithgaredd, gall y disgyblion gwblhau’r gweithgaredd gartref a danfon y gwaith at yr athro dosbarth.