
Cŵn Bach
Ffocysau Pellach: Dysgu wedi’i Bersonoli, Mwy galluog a thalentog, Dysgu Estynedig, Asesiad Cyfoedion, DMaAGD, Sgiliau Llythrennedd, Cyflawniad Bechgyn,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Unedau delfrydol ar gyfer annog y plant i gymhwyso eu gwybodaeth mathemategol i ddatrys problemau.
Defnyddiais weithgareddau dwy seren gyda fy nosbarth Blwyddyn 2.
Ar gyfer gwahanol weithgareddau, cefais y plant i weithio fel dosbarth cyfan, fesul grwp, fesul pâr ac fel unigolion - hyn oll yn cynnig cyfleon i ddatblygu meddwl ac annog asesiad cyfoedion.
Defnyddiais un o'r gweithgareddau i gynorthwyo gwella sgiliau gwrando'r plant sy'n medru bod yn eithaf gwan ar brydiau. Darganfyddais bod bechgyn yn ymateb yn arbennig o dda i hyn.
Darperais gyfleon i'r plant weithio drwy'r unedau yn eu hamser eu hunain a oedd yn galluogi bob un ohonynt i gyrraedd llwyddiant ar eu lefel hwythau - yn ogystal, darganfyddais bod cwmpas digonol ar gael i ymestyn y rhai mwy galluog a thalentog.
Rhoddais we-gyfeiriadau gweithgareddau i'r plant a'u hannog i gydweithio arnynt gyda'u rhieni. Roedd yr adborth a dderbyniais yn gadarnhaol iawn. Mae rhieni yn gwerthfawrogi gwybod yr hyn mae eu plant yn ei gyflawni o fewn y dosbarth ac maent yn mwynhau'r cyfle i gyfranogi.
Effaith a Chanlyniad
- Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnig cyfleon digonol i ddatblygu sgiliau rhifedd y disgyblion. Cefais fwynhad o'u gweld yn cwrdd â'r her o gymhwyso eu gwybodaeth rhifiadol i ddatrys y problemau hyn.
- Roedd natur y gweithgareddau a grwpio'r plant yn gymorth i ddatblygu eu meddwl ac roedd trafodaethau fesul pâr neu grwp yn dwyshau eu dealltwriaeth o'r cysyniadau mathemategol sydd wedi'i fewnblannu o fewn problemau.
- Nid yn aml y cewch gyfle i ddefnyddio gweithgaredd mathemategol i gynorthwyo yng ngwelliant sgiliau llythrennedd, ond fe ffeindiais i bod gweithgaredd yr Asgwrn Coll yn fodd rhagorol i wella sgiliau gwrando a deall ill dau. Yn aml i dro nid yw plant yn gwrando'n ddigon astud ar gyfarwyddyd, ond pan fyddant yn wynebu sefyllfa gystadleuol lle mae'n hanfodol eu bod yn gwrando'n llawn ar gyfarwyddyd, darganfyddais bod pob un plentyn unigol yn talu sylw manwl iawn i beth gafodd ei ddweud.
- Dangoswyd gwelliant sylweddol yng nghyflawniad y bechgyn wrth iddynt ddatrys problemau – yn y gorffennol, roeddynt yn dueddol o roi'r gorau iddi pan yn wynebu problemau ar bapur, ond gan fod hyn mor ryngweithiol, ac ar brydiau'n gydstadleuol, fe wnaethant ymateb yn arbennig o dda i'r her.
- Roedd natur y gweithgareddau a'r ffaith yr adroddir y cyfarwyddiadau i'r plant yn golygu fy mod yn medru galluogi'r plant i weithio ar y problemau heb lawer o fewnbwn athro – yn eu galluogi i weithio ar gyflymder o'i dewis ac felly yn cyflawni llwyddiant ar lefel bersonol.
- Drwy sicrhau bod y plant yn gweithio ar dasgiau fesul pâr – un yn cyflawni'r gwaith tra bod y llall yn gwirio yn ôl asesiad cyfoedion a dealltwriaeth dwysach o gysyniadau mathemategol.
Roedd y gwaith yn galluogi gweithgareddau estynedig i ymestyn y rhai mwyaf galluog a thalentog tra'n dal i ddefnyddio'r un cysyniad â gweddill y dosbarth.
Adborth gan y Dysgwr
‘Rydw i wedi mwynhau'n llwyr gweithio ar y problemau cŵn bach ynghyd â fy mab. Roedd e'n awyddus iawn i ddangos i mi beth oedd i'w wneud.’
‘Cefais fy synnu pan welais beth oedd fy wyr yn medru ei gyflawni’
‘Mae'n braf gallu rhannu yn y gweithgareddau mae fy merch yn ei chyflawni yn ei hysgol’
Adnoddau Eraill
Cŵn bach wedi'i lamineiddio, cownteri, cŵn bach plastig, 3 fasged gwiall, arian plastig, Siop chwarae rôl, argraffiad o gynllun yr ardd.
Gwersi a Ddysgwyd
Rwy'n teimlo bod anfon dolenni gwe i'r cartref, gan alluogi rhieni i gyfranogi o'r gweithgareddau cafodd eu hymgymryd â hwy yn y dosbarth wedi profi'n llwyddiannus, ac fe fyddwn yn hapus i wneud rhagor o hyn. Fe fwynhaodd y plant egluro i'w rhieni beth oedd angen iddynt wneud - mewn gwirionnedd, fe ddaethant yn athrawon yn hytrach nag yn ddisgyblion.