#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Adlewyrchiadau

Adlewyrchiadau

Prif Ffocysau: Cynhwysol, DMaAGD, Sgiliau Rhifedd, Cyflawniad Bechgyn,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Gweithgaredd cychwynnol er mwyn adolygu enwi llinellau syth.

Roedd yr adnodd yn dra effeithiol, gan iddo ganiatáu i mi gynhyrchu llinellau syth gwahanol yn sydyn ynghyd â'r dewis o guddio'r hafaliad. Cafodd pob disgybl gyfle i ateb y cwestiynau, ac roeddwn yn medru cynnig adborth i'w hatebion mewn amrantiad ac addasu'r cwestiynau yn ôl dealltwriaeth y disgyblion.

Ar gyfer y prif sesiwn dysgu, defnyddiwyd yr adnodd i arddangos i'r disgyblion sut oedd adlewyrchu gwahanol siapiau mewn llinellau adlewyrchol gwahanol. Roedd arddangosiadau ac archwiliadau gweledol yr adnodd hwn yn dra effeithiol. Roedd yn llwyddiannus yn nhermau'r budd a roddwyd i'r dysgwyr gweledol a chinaesthetig ill dau, a galluogodd ddysgu dosbarth cyfan, er gwaetha'r ffaith mai ond un disgybl ar y tro byddai'n medru defnyddio'r Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol. Cafodd y gweithgaredd hwn effaith clir ar y bechgyn. Cafwyd gwelliant sylweddol yn ymrwymiad y bechgyn oherwydd yr adnoddau mwy gweledol, ac oherwydd y cânt godi a rhoi cynnig arno gyda chymorth y Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol.

Ar gyfer y prif weithgaredd, defnyddiwyd yr adnodd i arddangos siapiau a'u hadlewyrchiadau. Ni chafodd llinell yr adlewyrchiad na'i hafaliad eu harddangos, ac, mewn parau, trafododd y disgyblion lle yn eu tyb nhw oedd llinell yr adlewyrchiad ynghyd â'i hafaliad. Darparodd defnydd y gweithgaredd gyfle i'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau meddwl, eu sgiliau cyfathrebu a'u sgiliau datrys problemau.

Effaith a Chanlyniad

  • Ysgogwyd ac ymrwymwyd y disgyblion i weithio gan yr arddangosiadau a'r archwiliadau rhyngweithiol.
  • Roedd agwedd weledol a chinaesthetig yr adnodd yn galluogi'r disgyblion i arddangos dealltwriaeth dda iawn o Adlewyrchiadau.
  • Cafodd ysgogiad y bechgyn ei wella'n sylweddol drwy ddefnydd yr adnodd gweledol hwn.
  • Roedd cael defnydd o'r byrddau gwynion bychain yn sicrhau cyfranogiad pob disgybl yn y gweithgaredd cychwynnol, ac roeddwn yn medru cynnig adborth i'r disgyblion i'w hatebion ar amrantiad.

Roedd cyfleon ar gael i'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau meddwl, eu sgiliau cyfarthrebu a'u sgiliau datrys problemau.

Adborth gan y Dysgwr

Ysgogwyd ac ymrwymwyd y disgyblion drwy gydol y wers. Roeddynt yn awyddus i gyfranogi o'r gweithgareddau ac fe gafodd lawer fwynhad o'r cyfle i ddefnyddio'r Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol.

Adnoddau Eraill

Byrddau Gwynion Bychain ac ysgrifbinau, pensiliau, prennau mesur a thaflenni gwaith.

Gwersi a Ddysgwyd

Gellir defnyddio'r Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol mewn modd effeithiol i alluogi dysgu dosbarth cyfan, hyd yn oed os mai ond un disgybl sydd yn ei ddefnyddio ar y pryd.