
Gweithio mewn Partneriaeth
Ffocysau Pellach: Asesiad Cyfoedion, DMaAGD, Sgiliau Rhifedd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Uned sydd yn rhan o brosiect partneriaeth gyda ysgol ryngwladol arall.
Cefais y pecyn adnodd hwn ar gyfer y cyfnod cynradd yn ddefnyddiol iawn am ddau reswm:
1) Rhoddodd ddigon o syniadau i mi ar gyfer creu gweithgareddau y gallem eu gweithredu mewn partneriaeth gyda’n cyswllt rhyngwladol ein hunain.
2) Crëwyd y ffeiliau mewn meddalwedd y gallwn i eu cyrchu. Roedd hyn yn golygu fy mod yn gallu defnyddio’r ffeiliau gwreiddiol a’u haddasu ychydig i ateb fy sefyllfa fy hun (yn hytrach na gorfod ail-ddyfeisio’r olwyn).
Ar wahanol adegau yn ystod y gwersi roedd y plant yn gweithio fel dosbarth cyfan, mewn grwpiau ac mewn parau lle cafwyd cyfleoedd i ddatblygu meddwl ac annog asesu cyfoedion.
Effaith a Chanlyniad
- Fe wnaeth gweithgareddau GCaD Cymru (a’r rhai a greais i’w cefnogi) ddarparu cyfle delfrydol i helpu datblygu sgiliau rhifedd y disgyblion. Fe’u cawsant yn ddiddorol i ddefnyddio data a gasglwyd ganddyn nhw eu hunain ac ysgolion mewn gwahanol rannau o’r byd.
- Fe wnaeth y gweithgareddau helpu’r disgyblion i ddatblygu eu meddwl a’u dysgu a, thrwy addasu, roeddent yn addas i’w hoed a’u gallu.
- Fe wrandawodd y disgyblion yn ofalus ac yn astud ar feddyliau eraill yn yr ystafell ddosbarth pan rannwyd nhw â meddyliau disgyblion yn ein hysgol gyswllt ryngwladol.
- Yn ystod y gweithgaredd ac ar ei ddiwedd, fe wnaeth y disgyblion fwynhau adfyfyrio ar yr hyn roeddent wedi’i ddarganfod a’i ddysgu yng nghyd-destun eu hardal leol a’r byd ehangach.
Adborth gan y Dysgwr
Roedd hi’n ddiddorol cael safbwynt rhywun arall, rhywle arall yn y byd.
Roedd sawl ffordd lle roedden ni’n wahanol ond hefyd ffyrdd lle roedden ni’n debyg.
Roedd hi’n dda i ddarganfod pethau oddi wrth blant yn y wlad arall yn hytrach na darllen amdanynt a thybio a oeddent yn wir.
Adnoddau Eraill
Mynediad i’r we; Ffeiliau athro ychwanegol (gweler ‘Adnoddau Addysgu’)
Gwersi a Ddysgwyd
Gallai’r mathau hyn o weithgareddau gael eu haddasu’n hawdd a’u datblygu i edrych ar themâu eraill mewn prosiect cyswllt rhyngwladol. Fe wnaeth y plant fwynhau’r heriau a osodwyd ac roedd hi’n bwysig eu bod yn gweld nad eu safbwynt, a’u barn nhw am bethau a sefyllfaoedd oedd yr unig un.