
Goleuni a Sain - Teithio
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Cyflawniad Bechgyn, eDdiogelwch, Arfer myfyriol,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Y defnydd o Fyrddau Gwyn Rhyngweithiol, logwyr data a blogiau i archwilio ac adrodd yn ôl ar y modd y mae sain yn teithio drwy ddefnyddiau.
Defnyddiodd y plant weithgareddau'r Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol fel sbardun i gyflwyno'r prif archwiliad a gyflawnwyd drwy ddefnyddio synwyryddion sain. Cafodd y plant lawer o fwynhad o ddefnyddio'r logwyr data gan iddynt deimlo'n debyg i Wyddonwyr go iawn oedd yn defnyddio cyfarpar ac offer trachywir. Roedd y Bwrdd Cynllunio o fewn y prif gweithgaredd yn gweithio'n dda iawn oherwydd bod y plant yn medru deall a delweddu'r cysylltiadau rhwng y newidynnau Annibynnol, Dibynnol a Rheolaeth mewn modd rhyngweithiol a chinaesthetig iawn. Wedi iddynt gasglu eu mesuriadau, defnyddiodd y plant siart bar GC a D Cymru Asesiad i Ddysgu i blotio eu siartiau bar, ac fe deimlwyd bod defnyddio'r agwedd hon yn addas at ein dibenion yn hytrach na defnyddio papur graff confensiynol. Mewn gwirionedd, roedd angen arf arnom fyddai'n galluogi'r disgyblion i gofnodi'u casgliadau graffigol yn sydyn, a byddai hyn yn eu galluogi i ganolbwyntio ar y patrymau roeddynt yn eu harsylwi yn hytrach nag ar sgiliau llunio graffiau.
Wedyn, gofynwyd i'n plant gyhoeddi eu casgliadau ar ffurf blogiau papur. Felly, fe ysgrifennon nhw eu blogiau ar ddalenni A4 yn egluro beth yn union a ddarganfuwyd ganddynt a beth oedd ystyr y data hyn. Unwaith y cafodd y blogiau hyn eu cwblhau, roedd angen i bob grwp fynd o gwmpas y dosbarth yn ddarllen y blogiau eraill cyn gludo sylwadau ar ffurf nodiadau gludog 'Post-it' ar o leiaf un blog. Os byddai rhywun neu awdur y blog papur yn dymuno ymateb i'r sylwadau, byddant yn gludo nodyn gludog arall ar ben y sylw gwreiddiol. Roedd hyn yn ffordd hyfryd o gyflwyno plant ifanc iawn i we-logio, i ddatblygu Sgiliau Llythrennedd ac i godi ymwybyddiaeth am eDdiogelwch hefyd. Fe ddarllenon ni am y dechneg hon yn gyntaf fan hyn.
Effaith a Chanlyniad
- Mae integreiddio'r defnydd o logwyr data a'r grid Asesiad i Ddysgu gyda'r prif weithgaredd wedi galluogi'r plant i ddatblygu Sgiliau Rhifedd pwysig. Roeddem ychydig yn betrusgar y byddant yn gweld y graddfeydd ar y siart bar rhyngweithiol yn anodd, ond honno oedd y dasg hwylusaf iddynt yn y pendraw oherwydd bod yr adnodd wedi'i gynllunio mewn modd rhyngweithiol oedd yn rhwydd a syml. Roedd modd i'r disgyblion ddeall sut oedd dewis y raddfa orau i'w ddefnyddio ar yr echelin-y o'r data a gasglwyd ganddynt, ac fe brofwyd iddynt feistroli iteriadau mathemategol eithaf cymhleth o ystyried eu hoedran, er enghraifft, crynhowch y raddfa i gynyddiadau cyfartal.
- Ein teimlad oedd bod y gweithgaredd hwn yn galluogi'r bechgyn i gynllunio eu hymchwiliadau heb orfod ysgrifennu dulliau hir a manwl, a oedd yn achosi iddynt gefnu ar y gweithgaredd ar adegau.
- Roedd y cydweithrediad cyfredol oedd yn digwydd i bob disgybl o fewn eu grwpiau unigol yn hynod werthfawr, gan iddynt lwyddo i rannu eu tasgau a chydweithio yn dra effeithiol. Hefyd, ymrwymodd hyn ein plant i Arferau Myfyriol, gan iddo gynnig cyfle iddynt fonitro eu cynnydd a chymhwyso eu trefniadaeth er mwyn cwrdd â'r Meini Prawf.
Roedd y gweithgaredd gwe-logio yn hynod ddefnyddiol i ddatblygu Sgiliau Llythrennedd da mewn modd creadigol. Yn wir, roedd hi'n ymddangos bod y plant lawer mwy ymrwymedig a canolbwyntiedig, oherwydd sylweddolant bod angen iddynt gynhyrchu darn o waith a byddai modd i unrhywun ei gyrchu ar y rhyngrwyd. Rhoddodd gyfle hefyd i drafod eDdiogelwch ac fe ddeallodd y disgyblion rhai o'r peryglon sy'n gysylltiedig â rhannu gwybodaeth yn ddiofal â'r rhyngrwyd a phynciau pwysig eraill megis Hawlfraint.
Adborth gan y Dysgwr
Roedd disgyblion yn frwdfrydig iawn am ddefnyddio logwyr data ac am ysgrifennu eu blogiau. Roedd hyn yn brofiad newydd iddynt ac fe gyfranogwyd o'r gweithgareddau hyn yn fawr. Dyma ychydig o sylwadau'r plant.
“Roeddwn i'n hoff o ddefnyddio'r mesurydd sain am nad oeddwn yn ymwybodol bod modd mesur sain drwy rifau!”, “Roeddem ni'n gweithio fel Gwyddonwyr go iawn, ac roedd e'n cwl dros ben!”, “Roeddwn wrth fy modd yn defnyddio'r Bwrdd Gwyn gyda'r ferch yn gwneud synnau!”, “Roedd ysgrifennu ein blogiau ni'n wych, oherwydd bydd nifer o bobol, gan gynnwys fy rhieni, yn medru gweld beth a wnaethom ni!”
Adnoddau Eraill
Logwyr Data, papur a lliwiau, gwahanol ddefnyddiau ar gyfer yr archwiliad, tiwbiau rholion papur cegin, a chlychau i gynhyrchu sain.
Gwersi a Ddysgwyd
Gofynwyd i'r plant ddod â defnyddiau byddant yn eu casglu o gwmpas y ty ar gyfer eu harchwiliad, ond nid pawb ddoth â rhywbeth. Fodd bynnag, roedd digon o ddefnyddiau gennym. Rydym yn gobeithio trosglwyddo'r blogiau papur i un go iawn, neu i wefan GC a D Cymru ac yna bydd modd i ni gasglu atebion rhieni'r plant a'u galluogi hwy i ymroi mwy ym mhrofiadau dysgu eu plant.