
Meini Prawf Llwyddiant mewn Ymchwiliadau Gwyddoniaeth
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Cynhwysol,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Bwriad yr uned hon yw cynorthwyo disgyblion ym Mlwyddyn 7 pan fyddant yn gosod eu meini prawf llwyddiant eu hunain wrth gynllunio ymholiad gwyddonol.
Yn aml mae disgyblion Blwyddyn 7 yn ei chael hi’n anodd gosod eu meini prawf llwyddiant eu hunain wrth gynllunio ymholiad gwyddonol, oherwydd nid ydynt yn gyfarwydd â’r cysyniad hwn, felly ystyriais y gallai defnyddio sefyllfaoedd bywyd go iawn helpu’r plant o bosib i ddeall a chymhwyso meini prawf llwyddiant yn well. Roeddwn hefyd eisiau i’r dysgwyr weithio gyda’i gilydd, fel y gallent rannu syniadau a dealltwriaeth gyda chymaint o’u cyd-ddisgyblion â phosibl. I gyflawni hyn, creais wal Wallwisher lle gallai pob disgybl ychwanegu meini prawf llwyddiant yn ymyl pob un o’r chwe sefyllfa gyfarwydd a gynigiwyd iddynt. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn i ddelweddu cyfraniadau’r dosbarth cyfan, rhannu syniadau ac ennyn trafodaethau. Fodd bynnag, er bod gennym nifer o sylwadau, (oedd yn dda iawn), nid oedd unrhyw drefn benodol a theimlais y gallai’r trafodaethau hyn gael eu cymryd gam ymhellach a’u defnyddio i ddatblygu meddwl. I gyflawni hyn gadewais i’r plant ddefnyddio’r offer Cylchoedd Gwerthoedd a gynlluniwyd gan GCaD Cymru. Mae’r offer datblygu meddwl hwn yn gadael i’r dysgwyr ychwanegu nodiadau gludiog rhithiol a’u gosod nhw ar bellterau gwahanol o ganol targed canol bwrdd dartiau. Ar ganol ac ar ymyl y bwrdd gall yr athro benderfynu ysgrifennu'r hyn a fynnant, e.e. mwyaf perthnasol a’r lleiaf perthnasol, fel bod y plant yn awr yn gallu ystyried meini prawf llwyddiant a ychwanegwyd gan wahanol ddisgyblion yn y dosbarth a phenderfynu pa mor berthnasol ydynt ar gyfer sefyllfa benodol. O wneud hyn maent yn datblygu sgiliau meddwl yn ogystal â’r gallu i weithio’n gyd-ddibynnol.
Effaith a Chanlyniad
- Datblygodd disgyblion sgiliau Llythrennedd drwy ysgrifennu sylwadau yn annibynnol a dadansoddi cyfraniadau eu cyfoedion.
- Fe wnaeth y dosbarth cyfan gymryd rhan mewn asesu gwaith cyfoedion drwy ryngweithio gyda sylwadau ei gilydd yn ystod trafodaethau dosbarth, Wallwisher a’r offer Cylchoedd Gwerthoedd o GCaD Cymru. Mae Wallwisher yn caniatáu i’r plant ychwanegu sylw a pharhau yn ddienw, pe dymunant wneud hynny, ac roedd hyn yn hynod ddefnyddiol wrth ganiatáu i ddysgwyr llai hyderus gyfrannu at y gweithgaredd heb ofni cael eu barnu.
Adborth gan y Dysgwr
Roedd fy nisgyblion wrth eu bodd yn defnyddio Wallwisher i ryngweithio gyda’r gweithgaredd a chyda’i gilydd a chawsant y dechnoleg hon yn wirioneddol ddefnyddiol i rannu syniadau a nodiadau. Roedd defnyddio sefyllfaoedd bob dydd yn eu helpu i ddeall y cysyniad o feini prawf llwyddiant a’i gymhwyso at Wyddoniaeth. Roeddent hefyd yn hoffi defnyddio offer Cylchoedd Gwerthoedd GCaD Cymru, gan ei fod yn eu cynorthwyo i drefnu pethau yn bethau mwy a llai pwysig.
Adnoddau Eraill
Taflunydd data a Chyfrifiadur Personol Tablet
Gwersi a Ddysgwyd
Mae’n bwysig iawn eich bod yn gosod eich wal yn Wallwisher fel ei bod yn gallu cael ei safoni. Os gwnewch hynny, bydd unrhyw sylw newydd a ychwanegir gan y disgyblion yn gorfod cael ei gymeradwyo gennych chi (crëwr y wal) cyn bod unrhyw un arall yn gallu ei weld.