#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Cyflwyniad i Daenlenni

Cyflwyniad i Daenlenni

Prif Ffocysau: Dwyieithrwydd, DMaAGD, Sgiliau Rhifedd,
Ffocysau Pellach: Arfer myfyriol, Sgiliau Llythrennedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd a ddefnyddiwyd gyda Blwyddyn 4 i gyflwyno uned o waith yn defnyddio taenlenni.

Rhan 1
Cyflwyno gemau byr i ymarfer sgiliau adio a thynnu ac i drafod y berthynas rhyngddynt.

Rhan 2
Cyflwyno’r weithgaredd Adnabod y Daenlen.

Ymarfer eu hadnabyddiaeth o gell, rhes a cholofn trwy dasg fer ar raglen ‘Numbers’.

Adolygu fel dosbarth wrth ddefnyddio gweithgaredd Adnabod y Daenlen 2.

Rhan 3
Cyflwyno ail ran y weithgaredd ar-lein sef Fformiwlâu gan droi at Adio.

Gosod tasg ar raglen ‘Numbers’ i ymarfer fformiwla adio.

Rhan 4
Troi nôl at Fformiwlâu a chyflwyno fformiwla tynnu.

Troi nôl at y dasg flaenorol ar raglen ‘Numbers’ a gweithgaredd pellach yn defnyddio Fformiwla tynnu.

Rhan 5
Defnyddio’r fformiwla ar daenlen mewn cyd-destun ysgol sef archeb Cydweithfa Llysiau a Ffrwythau.

Myfyrio ar y defnydd o daenlenni mewn sefydliadau fel ysgolion a busnesau.

Effaith a Chanlyniad

Cyfleoedd i asesu’r dysgu’n unigol ac fel pâr yn gyson wrth weithio ar y tasgau amrywiol. Y disgyblion yn aseswyr annibynnol wrth ofyn am gymorth yn ystod y wers a rhai yn troi nôl ar eu cyfrifiaduron at y cyflwyniad ‘Cyflwyniad i Daenlenni 1’ i’w hatgoffa neu i wirio canlyniadau. Roeddwn wedi fformatio’r gwaith ar raglen ‘Numbers’ fel bod yr atebion cywir yn ymddangos mewn lliw arbennig. Roedd hyn yn gefnogaeth effeithiol i’r disygblion gan eu bod yn anturiol yn fodlon ail-ymgeisio heb ofni methu. Wrth gyflwyno geirfa cyfarwydd ac anghyfarwydd roedd yn datblygu eu sgiliau llythrennedd gan eu bod yn barod i ddefnyddio’r eirfa yma’n naturiol wrth gwblhau tasgau. Roedd cyfle da yma i archwilio perthnasoedd gwrthdro adio a thynnu a chyfle gwych i resymegu’n fathemategol. Roedd cyfle i gyfeirio at eirfa’n ddwyieithog wrth ddefnyddio meddalwedd Saesneg ond ffocysu ar y Gymraeg yn bennaf ar lafar yn y dosbarth. Wrth gwblhau tasgau roedd y disgyblion yn barod iawn i fyfyrio a thrafod sgiliau TGCh, yr hyn roedden nhw wedi ddarganfod, patrymau ac unrhyw drafferthion.

Adborth gan y Dysgwr

‘Rydw i wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd ar y cyfrifiadur ac mae’n helpu fy ngwaith rhif i hefyd.’

‘Roeddwn i’n gallu gweithio’n hyderus achos fod y fformiwlau i fyny yn dosbarth ac roedd e’n hawdd rhoi ail-gyfle yn fy ngwaith.’

‘Rwy’n creu bydd defnyddio taenlenni yn ein helpu i gadw cofnod trefnus a chywir o archebion ein Cydweithfa Ffrwythau a Llysiau.’

Adnoddau Eraill

Taflenni taregdau dosbarth
Tasg Adnabod y Daenlen
Taenlen Adio (Dwy lefel)
Taenlen Cydweithfa (Dwy lefel)
Taflen Eirfa

Gwersi a Ddysgwyd

Defnyddio byrddau gwyn er mwyn casglu atebion wrth y dosbarth. Gan eu bod yn gweithio ar y cyfrifiaduron roedd hi’n anodd cadw golwg ar gynnydd pawb. Gallwn fod wedi defnyddio cardiau goleuadau traffig i bob pâr fel bod y disgyblion yn gallu dangos yn weledol os oedd angen cymorth ai peidio.

Roedd angen her i ymestyn grwpiau oedd yn gwneud y cynnydd mwyaf.