
Pwy syn Euog?
Ffocysau Pellach: Arfer myfyriol, Asesiad Cyfoedion, DMaAGD, Cyflawniad Bechgyn,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiwyd yr uned hon i helpu i ddatblygu sgiliau llythrennedd drwy wers mathemateg/TGCh.
Cafodd y dosbarth eu grwpio a’u cyflwyno i’r gweithgaredd drwy wrando ar un o ddatganiadau’r tystion a chan gymryd nodiadau. Roedd hon yn ffordd wych o wella eu sgiliau gwrando a chymryd nodiadau. Yna gwnaethant ddefnyddio’r wybodaeth roeddent wedi’i chasglu i chwilio’r gronfa ddata am yr un a oedd yn euog.
Wedi iddynt gwblhau’r dasg hon, rhoddwyd y daenlen iddynt a gofynnwyd iddynt weithio mewn parau i ddewis unigolyn euog gan ysgrifennu datganiad tyst. Yna gwnaethant ei berfformio i weddill y dosbarth – gan roi digon o gliwiau er mwyn dod o hyd i’r sawl oedd yn euog. Yna pleidleisiodd y dosbarth am y datganiad tyst gorau.
Effaith a Chanlyniad
- Câi disgyblion eu hymddiddori drwy gydol y broses
- Roedd y ffaith eu bod yn darllen am reswm yn rhoi’r ysbrydoliaeth yr oedd ei hangen ar rai o’r darllenwyr mwy amharod i gymryd rhan yn y gweithgaredd
- Gwnaeth y gweithgareddau hyn helpu’r disgyblion i ddeall pwrpas cronfa ddata a gwnaethant ddysgu sut i drin y daenlen i ddethol y wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt
- Gwnaeth disgyblion y mae eu hiaith ysgrifenedig yn eithaf gwan fwynhau ysgrifennu’r sgriptiau a pherfformio i weddill y dosbarth
- Gweithiodd pawb yn hynod galed i sicrhau y byddai’r cliwiau’n arwain y dosbarth at yr un a oedd yn euog
- Gwnaethant gynnig adborth call a chraff wth drafod llwyddiannau a methiannau datganiadau tyst
Adborth gan y Dysgwr
’Mae Pwy sy’n Euog yn grêt – rwy’n mynd i drio’r rhain gyda fy chwaer I’
‘Roeddwn i wrth fy modd gyda’r perfformiadau yn y dosbarth – fe gawson ni gymaint o hwyl’
Adnoddau Eraill
Ystafell gyfrifiadurol gyda chyfrifiaduron, nwyddau, taenlen Excel, pinnau a phapur
Gwersi a Ddysgwyd
Y brif wers a ddysgwyd oedd bod annog y plant i ddarllen ac ysgrifennu am bwrpas yn helpu i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd heb iddynt sylweddoli mai dyna’r hyn dan sylw. Roedd yn ymddangos bod disgyblion llai galluog yn gwerthfawrogi hyn gan eu bod yn gallu bod yn anghyfforddus braidd o wybod mai’r prif ffocws yw’r hyn maent wedi’i ysgrifennu ar y dudalen.