#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Cadfridogion - Dehongliad

Cadfridogion - Dehongliad

Prif Ffocysau: Dysgu wedi’i Bersonoli,
Ffocysau Pellach: Mwy galluog a thalentog, Dysgu Estynedig, Cynhwysol, Sgiliau Llythrennedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr adnoddau hyn i gynorthwyo disgyblion wrth ddadansoddi dau ddehongliad hanesyddol gwahanol ar weithredoedd Cadfridogion y Rhyfel Byd Cyntaf.

  • Roeddwn am herio’r disgyblion i gael hyd i atebion drostynt eu hunain.
  • Roeddwn i hefyd am ddefnyddio gweithgaredd heriol ac ysgogol i danio dychymyg y disgyblion a chaniatáu iddynt ddefnyddio gwybodaeth flaenorol i ddatrys problemau.
  • Gweithiodd y disgyblion yn unigol ond fe’u hanogwyd hefyd i weithio gyda phartneriaid er mwyn paru a rhannu.
  • Defnyddiais 5.1 er mwyn cyflwyno’r dasg i’r dosbarth a thrafod beth yr oedd disgwyl iddynt ei wneud. Yna, cyflwynais y ffynonellau gan annog y dosbarth i drafod beth yr oeddent wedi ei ddysgu trwy edrych ar y dehongliadau gwahanol. Gofynnais i’r disgyblion agor 5.3( wedi’i lwytho ar VLE a’r fewnrwyd) fel bo modd iddynt ddadansoddi’r dehongliadau trwy gyfrwng y gweithgareddau. Mae  Fersiwn 5.3. yn caniatáu i ddisgyblion deipio eu hatebion ac argraffu eu gwaith.
  • Anogwyd y disgyblion i ddefnyddio’r adnoddau gartref gan eu bod ar gael trwy’r VLE.
  • Anogwyd Dysgu Annibynnol  gan fod disgyblion yn gallu ymwneud  â’r gweithgaredd hwn heb fawr o gymorth gennyf i..
  • Roedd y disgyblion yn cynnig cefnogaeth gyfoed i’w gilydd gan eu bod wedi eu hannog i baru a rhannu syniadau.
  • Ar ddiwedd y dasg, gofynnwyd i ddisgyblion ystyried beth yr oeddent wedi’i ddysgu ac a fyddai modd defnyddio gweithgaredd tebyg wrth adolygu pynciau eraill sydd wedi’u hastudio

Effaith a Chanlyniad

  • Mae’r gweithgaredd yn galluogi disgyblion i weithio’n annibynnol ac yn darparu adborth ar y pryd gan fod adnodd gwirio yn rhan o’r holl adnoddau rhyngweithiol.. Roedd hyn yn fodd i ysgogi’r disgyblion gan wneud y broses ddysgu yn un hwyliog. Roedd y disgyblion yn gallu gwerthuso eu canlyniadau eu hunain a gweithredu arnynt.
  • Rhoddwyd hwb i ddysgu annibynnol gan ei fod adnodd oedd yn caniatáu i ddisgyblion gyrchu adnoddau a deunyddiau gartref.
  • Dangosodd y disgyblion agwedd bositif iawn gan fwynhau’r her o ddatrys y problemau trwy gyfrwng yr adnoddau rhyngweithiol. Roedd hyn yn ei dro yn help o ran gwella sgiliau canolbwyntio a dal sylw’r disgyblion gyda’r gwaith.
  • Roedd defnyddio mwy o adnoddau gweledol ac apelgar yn fodd i sicrhau bod disgyblion o  wahanol alluoedd yn cymryd rhan..
  • Roedd y disgyblion yn gwrando’n fwy astud ar eu cyfoedion gan yr anogwyd cyd-weithredu a chefnogi. Gofynnwyd i ddisgyblion baru a rhannu syniadau wrth weithio yn yr ystafell gyfrifiadurol.
  • Anogwyd dysgu annibynnol gan fod y disgyblion yn gallu gweithio gyda’i gilydd heb fewnbwn gan yr athro dosbarth..
  • Rhoddwyd cyfle i ddisgyblion mwy abl a thalentog i ddatblygu eu sgiliau meddyliau a chyflwyno eu syniadau yn ysgrifenedig.
  • Rhoddwyd cyfleoedd i ddisgyblion sy’n cyflawni’n uwch i barhau i gyflawni’n uwch trwy’r gweithgareddau creadigol oedd ar gael.
  • Roedd disgyblion yn gallu teipio ac argraffu eu hymatebion oedd wedyn yn fodd i helpu’r disgyblion i strwythuro eu hymatebion ysgrifenedig.
  • Roedd y disgyblion yn gallu gwella ansawdd eu hymatebion ysgrifenedig a chymhwyso termau a dyddiadau hanesyddol yn fwy effeithiol. Arweiniodd hyn at welliant yn safon y gwaith ysgrifenedig yn gyffredinol.
  • Doedd dim rhaid addasu’r gweithgaredd ac roedd modd ei ddefnyddio’n syth gan ei bod mor drylwyr. Roedd cyfarwyddiadau’r gweithgaredd yn glir iawn gan olygu ei fod  yn hawdd iawn i’r disgyblion ei ddefnyddio.

Adborth gan y Dysgwr

“Roedd y dasg yn ei gwneud hi’n haws imi ddelio gyda dehongliadau gan ei fod yn rhannu’r hyn oedd angen ei wneud gan wneud yn siwr mod i’n delio gyda’r cynnwys ac yn esbonio sut mae’r dehongliadau yn amrywio”

Adnoddau Eraill

6.1 Cadfridogion- dehongliad.doc

Gwersi a Ddysgwyd

Mae angen sicrhau bod y trefniadau eistedd yn eu lle cyn y wers er mwyn sicrhau fod gan y disgyblion y partneriaid dysgu priodol.

Unwaith y mae’r gweithgaredd wedi ei gwblhau gan y disgyblion gartref, gallant e-bostio’r gwaith at yr athro dosbarth.