#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Ynys Hwyl a Sbri

Ynys Hwyl a Sbri

Prif Ffocysau: Dwyieithrwydd,
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau Rhifedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiwyd yr adnodd hwn i gefnogi datblygiad patrwm brawddegau penodol yng Nghynllun Gwaith Cymraeg Ail Iaith.

Amcanion Dysgu : i ddatblygu'r patrymau brawddegau canlynol - ‘Dyma...’ , ‘Ble mae...?, a ‘Mae ... yn ...’ ac i adolygu'r eirfa sy'n berthnasol i liw, y tywydd a môr-ladron.

Y gweithgareddau a ffocyswyd oedd :

  1. Darllen y stori a chanu'r gân (Gweithgaredd 1) Gwneir fflachgardiau allan o dudalennau'r stori yn dangos yr ynys, y cwch, yr haul, y gist a Barti Ddu ac fe'u defnyddir mewn gemau cof i atgyfnerthu geirfa. Gofynnodd yr athro y cwestiwn ‘Ydych chi'n cofio lle y defnyddiwyd ‘dyma’ mewn brawddeg o'r blaen?’ ac fe ailadroddodd y plant frawddegau gan ddefnyddio'r patrwm.
  2. Gweithgaredd Cyfesurynnol (Gweithgaredd 4)

Defnyddiwyd y gweithgaredd hwn ar y Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol. Yna, fe dynnwyd llun o gynllun tir yr ysgol a rhoddwyd cliwiau gwahanol i'r plant gael chwilio am 'drysor'. Tudalen o'r stori oedd y trysor, a'r gweithgaredd llawn oedd ail osod y dudalen darn wrth ddarn er mwyn ailgreu'r stori cyfan. Defnyddiodd y plant batrwm brawddeg ‘Ble mae ...’ a ‘Mae....yn..’  Llwyddwyd i gyflawni gwahaniaethiad drwy baru'r plant, fel y byddant yn gallu cefnogi'u gilydd ar hyd y dasg.

Defnyddiwyd y gweithgareddau eraill fel adnoddau estynedig neu darpariaethau parhaus o fewn y dosbarth.  Fe'u defnyddiwyd law yn llaw â byd bach o fôr-ladron, cynllun chwarae rôl yn ymwneud â chwch môr-ladron, gyda BeeBot wedi'i wisgo fel môr-leidr yn symud ar draws fap trysor er mwyn casglu gwahanol eitemau o drysor. Datblygwyd gweithgaredd y BeeBot ar gyfer plant o allu uwch, gyda'r plant yn ysgrifennu eu cliwiau eu hunain yn gofyn i'r BeeBot ddarganfod y trysor. Gofynnodd yr athro gwestiynau yn debyg i ‘Oes modd i chi ddangos i mi sut byddem yn symud i...? a ‘Lle byddai BeeBot pe byddem yn ....?’

Effaith a Chanlyniad

Roedd yr adnodd yn apelgar ac ysgogol ac yn gweddu'r adnoddau eraill a ddefnyddir yn y dosbarth ar y pryd. Drwy gymorth y tasgau canolbwyntiedig, roedd modd i'r plant ddatblygu digon o eirfa i gyfranogi'n ddwyieithog o'r chwarae rôl a'r byd bach. Roedd cardiau annog ger ardal y byd bach yn atgoffa'r plant i ddefnyddio'r Gymraeg yn hytrach na'r Saesneg yn y gweithgaredd hwn. Drwy gymorth yr adnodd ddysgu, roedd modd i'r disgyblion arddangos eu gwybodaeth am gyfesuryddion a'i ddefnyddio mewn helfa drysor ar raddfa lawn ar dir yr ysgol.  Gwahaniaethwyd y gweithgareddau ar sail canlyniad, hynny yw, maint y Gymraeg a siaradwyd a maint y gefnogaeth a roddwyd i'r plant.

Adborth gan y Dysgwr

Fe gafodd y dysgwyr fwynhad o chwarae gêm y môr-ladron (Gweithgaredd 5) yn annibynnol oherwydd ei fod yn seiliedig ar y gêm adnabyddus ‘Seirff ac Ysgolion'.

Adnoddau Eraill

Dysgodd y plant ganeuon eraill oedd yn sôn am fôr-ladron.

Gwersi a Ddysgwyd

Roedd cardiau annog yn gweithio'n dda er mwyn atgoffa'r plant o'r eirfa wrth iddynt gyfranogi o weithgaredd estynedig neu weithgaredd darpariaeth barhaus. Roedd rhyngweithio gydag oedolion Cymraeg eu hiaith yn cynorthwyo llif yr iaith.