
Arfer da > Trosolwg
Salad ffrwythau ymhell i ffwrdd
Adnodd rhyngweithiol sy’n hyrwyddo bwyta’n iach wrth annog disgyblion i ystyried o ble y daw’r bwyd a’i effaith ar gymunedau ac ar y blaned Daear.
Gall disgyblion ddefnyddio cronfa ddata syml i gymharu a dethol ffrwythau ar gyfer eu salad ffrwythau cyn darganfod faint o effaith carbon y bydd eu salad yn cael ar y blaned.
Bydd disgyblion hefyd yn cael cyfle i ddadlau effeithiau cadarnhaol a negyddol marchnad fyd-eang ac edrych ar astudiaethau achos ffermwyr o gwmpas y Byd.
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys themâu Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang sef Iechyd, Dewisiadau a Phenderfyniadau a Chyfoeth a Thlodi.