Mentrau Cenedlaethol

Mentrau Cenedlaethol

Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan

Deunydd Enghreifftiol (zip)

Mae’r adran hon yn cynnwys templedi a ffurflenni, disgrifiadau swydd drafft ynghyd a pholisi ymarfer da, prosesau a dulliau. Nid ydynt yn anochel i’w ddefnyddio ond efallai byddent yn ddefnyddiol i addasu at eich diben eich hun.

Mae’r deunydd yn yr adran hon wedi eu casglu gan awdurdodau lleol ar draws Cymru a’r DU. Hyd yn oed casglwyd yn ddidwyll ni all Llywodraeth Cynulliad Cymru cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb unrhyw cynnwys cyfreithiol a ddarparwyd yn yr adran hon.

Polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yw i ddim cyfieithu dogfennau trydydd parti, fodd bynnag os oes cyfieithiad ar gael rydym wedi ei chynnwys. Gobeithiwn ychwanegu at hon mewn amser os yw unrhyw awdurdod lleol yn penderfynu cyfieithu’r dogfennau yn y dyfodol.

#
‘Ydych chi’n gwneud pethau’n iawn?
Pecyn cymorth ar gyfer ymgynghori a phobl ifanc yng Nghymru ar addysg rhyw a pherthnasoedd.  Cynhyrchwyd y pecyn cymorth yn wreiddiol gan y Fforwm Addysg Rhyw yn 2008 ar gyfer ysgolion uwchradd yn Lloegr. Mae’r fersiwn hon wedi cael ei haddasu er mwyn ei defnyddio yng Nghymru, mewn cydweithrediad a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ariannwyd yr addasiad a’r cyfieithiad o’r adnodd hwn, i’w ddefnyddio gan ysgolion yng Nghymru, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Dogfennau Prif Ddysgu 2011
Ffurflen gais
Siart llif

UKCCISUKCCIS Strategy and Digital Code

Click Clever Click Safe: the first UK Child Internet Safety Strategy

Children's online risks and safety - a review of the available evidence

Internet Safety Code

LC / WGCynllun Llythrennedd Cenedlaethol
Mae'r Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol 4 blynedd wedi'i dargedu at ysgolion cynradd a fydd yn canolbwyntio ar godi safonau llythrennedd plant 7-11 oed ac ar gau'r bwlch rhwng y rhywiau.  Am ragor o wybodaeth www.darllenynwell.co.uk

eDdiogelwcheDdiogelwch

Am gymorth, arweiniad a gwybodaeth ynglŷn a'ch cadw chi a'ch myfyrwyr yn ddiogel ar y rhyngrwyd, cymryd gip ar y wefan e-Ddiogelwch newydd.


LC / WG E-Borth ar gyfer AAA

Croeso i’r adnodd e-ddysgu yma ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), gyda chefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ...

ADCDF ADCDF

Addysg a fydd yn paratoi pobl ifanc am fywyd yn yr 21ain ganrif yw Addysg dros Ddatblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ESDGC).  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhyddhau dogfen yn ddiweddar a fydd yn cynorthwyo cyflwyno ESDGC mewn ysgolion.  Mae'r 'Themau' a nodir yn 'Cyd-ddealltwriaeth' yn ymdrin ag amrediad ESDGC ac yn cefnogi cyflwyno Gorchmynion Pwnc statudol, fframweithiau perthnasol, fframweithiau anstatudol perthnasol eraill a'r Craidd Dysgu 14-19.

Mewn ymateb i hyn, mae GCaD Cymru yn datblygu micro-safle sy'n cefnogi ysgolion gydag enghreifftiau o ymarfer da, canllawiau polisi a chysylltau a defnyddiau ac adnoddau perthnasol.  Bydd APADGOS yn defnyddio'r rhan hon hefyd fel prif gyfrwng ar gyfer cyfathrebu ag ysgolion.

Strategaeth TGCh ar gyfer Ysgolion

Mae’r adroddiad interim hwn yn amlinellu’r casgliadau y daethpwyd iddynt hyd yma gan y gweithgor a sefydlwyd ym mis Mai 2006 i gynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddatblygu Strategaeth TGCh ar gyfer Ysgolion.
Gweld dogfennau


continYou
Darllenwch am ContinYou yma.

www.bigambitionwales.com
Mae e-skills UK, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Technoleg a Busnes wedi lansio ei gwefan Gyrfaoedd gyntaf erioed ar gyfer Technoleg Gwybodaeth yng Nghymru, Uchelgais Fawr Cymru/BigAmbition Wales.

Gall myfyrwyr, athrawon a chynghorwyr gael gwybodaeth ar y cyfleoedd sydd ar gael gyda gyrfaoedd mewn technoleg gwybodaeth mewn amrywiaeth o gwmniau, yn cynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, cwmniau amddiffyn a llawer mwy. darllenwch mwy