WAG SEN

WAG SEN

Diben yr adnoddau yw gwella dealltwriaeth a gwybodaeth athrawon sy’n gweithio gyda disgyblion sydd ag AAA a chodi ymwybyddiaeth am y ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried wrth ddatblygu ysgol gynhwysol. Bydd yn datblygu dealltwriaeth y rheini fydd yn mynychu’r cwrs am y pedwar categori o AAA fel a ddisgrifir yng Nghod Ymarfer AAA Cymru (2002). Bydd hefyd yn eu helpu i ddatblgyu ymateb proffesiynol i ystod amrywiol o anghenion dysgu unigol yng nghyd-destun adnabod, asesu a chynllunio; sicrhau mynediad at y cwriciwlwm; dulliau gwahaniaethol o ddysgu ac addysgu; defnyddio dulliau o weithio ar y cyd; hyrwyddo datblygiad ac ymddygiad cymdeithasol ac emosiynol positif.

Mae is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar ddeunyddiau’r cwrs i helpu athrawon sydd â nam ar eu clyw.

Mae darpariaeth ar-lein yn galluogi myfyrwyr i astudio mewn man sy’n gyfleus iddyn nhw ac ar adeg gyfleus. Gan ei fod yn becyn e-ddysgu, fel arfer gellir cael mynediad at y cwrs yn y cartref, mewn sefydliad Addysg Uwch, mewn Canolfan TGCh Awdurdod Addysg Lleol neu mewn ysgol. Mae sefydliadau Addysg Uwch yn cynnig cefnogaeth tiwtorial ar gyfer myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ac sydd am gael achrediad.

Bydd yn rhaid i athrawon sydd am fynfychu cwrs achrededig gofrestru gyda Sefydliad Addysg Uwch.

Gall athrawon eraill sy’n gweithio yng Nghymru ac sy’n dymuno defnyddio deunyddiau’r cwrs er mwyn hyfforddi, eu cael am ddim ar y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu.

E – Borth ar gyfer AAA