Rhwydwaith Fideo Cymru (RhFC)
Bwriad yr amrywiaeth gyflawn o wasanaethau sy'n cael eu cynnig yw rhesymoli'r maes technegol hwn sy'n edrych yn gymhleth fel y gall ysgolion ac Awdurdodau Unedol ddarparu fideo-gynadledda o safon, gan osgoi'r peryglon ac unrhyw gur pen wrth fynd ati. Bydd Canolfan Gefnogi RhFC wedyn yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth hyfforddi a chefnogi'r rhai sydd â diddordeb mewn defnyddio'r dechnoleg er mwyn manteisio'n llawn arni ac i gadw eich offer yn gweithredu'n llawn.
Mae'r RhFC yn wasanaeth nad yw'n gwneud elw a weithredir gan y gymuned addysg er lles y gymuned honno ac fe'i rheolir gan JANET(UK). Er nad yw RhFC yn gwerthu offer fideo-gynadledda, mae cytundeb fframwaith DU yn weithredol gyda chyflenwr enwebedig a allai wneud y broses gaffael yn rhwyddach a helpu i sicrhau'r gwerth gorau am arian.
Am fanylion pellach am RhFC, cysylltwch â Chanolfan Gefnogi RhFC ar 01792 295700 neu anfonwch e-bost at cefnogaeth@rhfc.ac.uk. Mae gwefan RhFC i'w chael yn www.rhfc.ac.uk