Saesneg
Dinasyddiaeth ac ABChCyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd – CymruSafle elusen addysgol yw hwn yn gweithio gyda phobl ifanc er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth o’r byd cyfoes. Mae’n cynnig cefnogaeth ar gyfer dinasyddiaeth yng Nghymru ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.
English Literature on the Web
Safle i gyswllt gwe sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Nagoya, Japan. Mae’n logio safleoedd sydd wedi eu cyflwyno i awduron Prydeinig, cylchgronau llenyddol, ac mae’n cynnig cysylltau archif e-destun â phrif safleoedd archif ac is-setiau wedi eu neilltuo i Lenyddiaeth Eingl-Sacsonaidd, Y Dadeni, yr Adferiad, y Rhamantwyr, Cyfnod Fictoraidd a llenorion yr 20fed ganrif. Mae yma hefyd set fechan o gysylltau ag awduron Americanaidd. Mae nifer o’r safleoedd a logwyd yn cynnwys testun yn ogystal â beirniadaeth lenyddol.
Bibliomania.
Safle sy’n cynnwys 2000 o destunau clasurol Seisnig ar-lein – am ddim. Mae’n dal nodiadau testun a sylwebaethau, bywgraffiadau awduron, crynodebau a chyfeiriadau llyfrau. Mae modd cael yma arweinlyfrau ar gyfer astudio a nodiadau athro helaeth ar y prif awduron. Ceir system gofrestru ond mae am ddim.
The Cambridge History of English and American Literature
Mae testun y ddogfen yn bosibl i’w chwilio a’i weld ar-lein. Ar ffurf testun mae’n ddogfen o 18 cyfrol. Y ffordd orau i chwilio’r safle yw drwy’r ‘Mynegai i benodau’, sy’n galluogi mynediad uniongyrchol i benodau unigol megis “Changes in the language to the days of Chaucer” a “Nineteenth Century Drama”. Mae’r safle hefyd â chysylltiad â Llyfrgell Bartelby, archif e-destun, sy’n cynnwys gweithiau canonaidd mewn Saesneg i’w chwilio yn ôl awdur, testun neu deitl. Mae yn cadw ar-lein Palgrave ‘Golden Treasury’, The Oxford Book of English Verse [argraffiad 1919, a.y.y.b.].
Llenyddiaeth Glasurol
Rhan o’r grŵp ‘About’, ac mae i’r safle is-set a enwir yn ‘British Literature’ ac mae’n cynnig diffiniadau, gwybodaeth am awduron, cyfnodau a genre, ynghyd â dyfyniadau, gweithiau cyfan a.y.y.b. Gellir ei chwilio yn ôl awdur neu gyfnod, a cheir yma feirniadaeth lenyddol eang a sylwadau. Mae’n safle masnachol, felly peidiwch â synnu gweld neidlen [pan wneir yr ymchwil hwn, fe welir rhaglen listio Byddin UDA yn cael ei hysbysebu’n aml iawn….].
Adnoddau Llenyddiaeth Saesneg
Rheolir y safle gan Ysgol Newyddiaduraeth Llundain ac mae’n rhoi mynediad i e-destun ar ffurf lawr lwytho, safleoedd o ddiddordeb cyffredinol, theori lenyddol a hanes yr iaith. At hyn fe geir mynediad i nifer o safleoedd cysylltau eraill â Llenyddiaeth Saesneg, megis Cyfadran Saesneg Prifysgol Rhydychen. Mae hefyd yn cynnwys nifer o draethodau ar agweddau o Lenyddiaeth Saesneg, o ddarllen cefndirol i ddadansoddiad testun, megis ‘The love poetry of John Donne’.
Voice of the Shuttle
Enw braidd yn od i safle. Dyma safle adnoddau dyniaethau, sy’n cael ei gynnal gan un dyn ym Mhrifysgol California ar gampws Santa Barbera. Mae’n enfawr a’i brif ragoriaeth yw ei fod ymysg y rhai a ddyfynnir ac a gysylltir ag ef amlaf. Fodd bynnag, y broblem gyda safle sy’n cael ei gynnal yn y modd hwn yw y gall y cysylltau fod weithiau yn farw ! Er hyn, mae’n cynnwys cryn nifer o e-destunau ar-lein yn ogystal â chynnwys nifer o erthyglau ar Theori Lenyddol a fydd o gymorth i athrawon ar gyfer Safon Uwch. Gellir cael testunau safonol ar Theori Lenyddol (dull Americanaidd) ar-lein drwy’r safle hwn, gan gynnwys, er enghraifft John Hopkins Guide to Literary Theory and Criticism. Mae angen rhywfaint o gofrestru o bryd i’w gilydd, ond mae’r safle am ddim.
American and English Literature Internet Resources
Mae safle Llyfrgell Buley yn cael ei gynnal gan Brifysgol Talaith Connecticut. Mae’n adnodd ar gyfer myfyrwyr, ac mae wedi ei drefnu fel ei fod yn hawdd cael mynediad iddo. Mae’n cynnwys rhestr fawr o Shakespeare, yn cynnwys safle yn Awstralia o Waith Cyflawn Shakespeare y gellir mynd trwyddo fesul golygfa, gyda sylwadaeth fanwl ategol.
Introduction to Mr William Shakespeare and the Internet
Safle mawr yn cynnwys pob agwedd o fywyd ac amserau Shakespeare. Mae ganddo’r cyfleuster o ‘Linell amser’ i leoli dramâu o safbwynt ei fywyd a’i yrfa, ynghyd â thystiolaeth ddogfennol. Mae hefyd yn cynnwys adran fawr sy’n gyfangwbl ar ‘Shakespeare mewn addysg’ , sy’n cynnwys cysylltau i safleoedd sydd wedi eu cynllunio ar gyfer ‘addysgu’ Shakespeare. Tra bod y cynnwys yn ei hanfod yn Draws Iwerydd, ceir llawer o wybodaeth ddefnyddiol yma, hyd yn oed nodiadau gwersi a chwestiynau astudio a ddefnyddir mewn rhai ysgolion yn UDA.
Shakespeare Resource Centre
Mae’r safle yn cynnwys y canlynol – y ‘dyn’ a’i weithiau, crynodeb drama o’r cyfan o 38 o weithiau yn y canon, y ddadl anochel ar pwy yw’r awdur, manylion a hanes byr Theatr y Glôb a Lloegr Elisabethaidd, arweiniad i ddefnydd y Bardd o Saesneg, yn cynnwys geirfa chwiliadwy a rhestr ddarllen eang a chysylltau eraill gweithredol.Yma hefyd mae un hynodrwydd diddorol, sef Ewyllys olaf Shakespeare, yn cynnwys y darnau a ‘groeswyd allan’.
All Shakespeare
Mae’r safle hwn yn rhan o gyfres ‘enotes.com’. Mae’n disgrifio ei hun, yn ddiymhongar, fel yr arweiniad gorau i weithiau Shakespeare. Mae’n cynnwys ‘y cyfan sydd angen arnoch i ddeall, astudio neu ysgrifennu papur ar unrhyw un o weithiau Shakespeare’ [sic]. Fodd bynnag, mae’n cael ei ddyfynnu’n eang ar y Rhyngrwyd. Mae’n cynnwys nodiadau ar y dramâu [15 ar hyn o bryd] yn ogystal â’r Sonedau, o dan nifer o benawdau – rhagymadrodd, crynodebau, mynegai i gwestiynau mynych, dadansoddi cymeriadaeth, trafodaeth feirniadol a themâu, detholiad o draethodau perthnasol, dyfyniadau dethol a llyfryddiaeth. Mae rhai rhannau o’r safle yn cael eu diogelu gan gyfrinair ar gost gweddol fychan [$5.95 am 90 diwrnod], ond yn gyfnewid am hyn ni cheir lluniau hysbysebu plagus i orlenwi’r safle.
UCL – English and American Literature
Safle sy’n cartrefu ym Mhrifysgol Connecticut. Yn gryf ar Lenyddiaeth Hen Saesneg a Llenyddiaeth Ganoloesol, yn cynnwys nifer o gysylltau â Chaucer, megis fersiwn defnyddiol o destun wedi ei ddiweddaru o Canterbury Tales.
The Chaucer Pedagogy Page
Mae’r safle wedi ei leoli ym Mhrifysgol Alaska. Mae’n ceisio bod ‘y cyfan yr ydych am wybod fyth am Chaucer’. Mae wedi ei gynllunio yn dda ac yn hawdd ei chwilio. Mae wedi ei ddylunio fel ffordd rwydd o ddeall Chaucer ac mae’n cynnwys, yn effeithiol, arweiniad ar sut i osgoi llên-ladrad…. Mae’n cynnwys swm enfawr o wybodaeth am Chaucer a’i waith, yn cynnwys nodiadau darlith ar y Tales gan amrywiol bobl yn UDA ac mae’r rhain yn sicr o werth i greu gwersi ar gyfer Safon Uwch.
The Chaucer Nook
Yn hanfodol, dyma safle arweiniol at waith Chaucer. Gwefan sy’n cael ei reoli’n breifat ac, felly, mae’n gaeth i faint o amser a ddefnyddir i’w gynnal. Yn aml mae’r math yma o safleoedd yn cael eu rheoli gan athrawon ac yn werth ymweld â hwy. Mae’r safle yma yn cynnwys nodiadau i gynnal y Prolog Cyffredinol a phedair o’r Straeon [hyd yma…]. Mae’n cynnwys adran ddefnyddiol o nodiadau ar gyfer athrawon, [er yn ôl pob golwg wedi eu hanelu at ddarlithwyr UDA], yn cynnwys sylw ar yr iaith a thraethodau cysylltiedig, sy’n cynnwys testun cyfres o ddarlithoedd ar Chaucer a draddodwyd yn Nulyn yn 1994, yn dwyn y teitl ‘Teaching Chaucer in the 1990s’.
The Word Zone: Secondary Teaching
Safle dan ofal AALl Caerlŷr fel rhan o waith grid lleol.Mae wedi ei gynllunio’n dda a rhydd gyngor ar sut i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein ar gyfer addysgu Saesneg Safon Uwch ymysg pynciau eraill – mae’n dyfynnu rhai o dudalennau’r we sy’n barod wedi eu logio ar y safle hwn.
Andrew Moore’s resource site.
Safle bersonol sy’n cynnwys cryn swm o ddeunydd tiwtorial ar gyfer Saesneg Safon Uwch. Mae’n werth pori’r we am syniadau, ond mae’n safle sy’n cael ei gynnal yn bersonol a dylid cadw hyn mewn cof wrth asesu ei ddefnyddioldeb. Weithiau, gall yr eitemau fod yn rhan o agenda hynod o bersonol o ran materion, megis hil neu genedl. Fodd bynnag mae’n arwydd o’r amserau a gellir canmol yr athro am ei fentr. Mae’r safleoedd hyn weithiau yn ansefydlog gan nad ydynt yn gyson ar-lein.