Ffrangeg
Association des Bibliophiles Universels
Mae’r safle yn cynnwys nifer fawr o destunau llenyddol y gellir eu lawr lwytho. Mae hefyd yn cynnig mynediad i gyfleusterau eang o eiriadur ar-lein.
Athena
Mae’r safle yn y Swistir ac mae’n gymharol newydd ac yn dal i gynyddu. Mae’n beiriant chwilio mawr gyda thestun llenyddol yn unig. Man cychwyn da.
Biblionet
Un o gyfres o safleoedd sy’n gweithredu ar-lein ym maes llenyddiaeth Ewropeaidd. Mae safleoedd drych-ddelweddau ar gael ar gyfer llenyddiaeth Sbaeneg, Almaeneg, Groeg, a Rwseg.
Clicnet
Safle yn yr iaith Ffrangeg sy’n cael ei chynnal yn UDA. Yn bennaf mae’n gatalog, ond mae’n fan cychwyn da ar gyfer chwilio cysylltau eraill.
French Versification
Dadansoddiad manwl defnyddiol o systemau mydryddu a ddefnyddir mewn Ffrangeg, ac a ddatblygwyd gan Brifysgol Exeter.
Gallica
Safle sy’n cael ei gynnal gan Lyfrgell Genedlaethol Ffrainc. Y safle mwyaf o lenyddiaeth Ffrangeg ar y We. Honnir bod y safle yn cynnwys 3 miliwn o dudalennau. Mae swm y defnyddiau yn wirioneddol arswydus fel y gellid disgwyl o safle a gynhelir gan y llywodraeth, eto mae’n dadlwytho yn syndod o gyflym. Mae hefyd yn cynnwys ‘beiriniadaethau’ wedi eu ffeilio dan ‘Themâu’ sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer Safon Uwch, yn arbennig i ddiffinio’n gryno yr amrywiol ’genres’ mewn Llenyddiaeth Ffrengig.
Les Poètes du XIXe siècle
Safle wedi ei gyflwyno i feirdd y 19eg ganrif. Mae wedi ei rannu yn is-safleoedd sy’n adlewyrchu amryw o fudiadau – Rhamantiaeth, Symbolaeth, a.y.y.b. sydd yn eu tro yn rhoi mynediad i lenorion penodol. Mae ganddynt dudalen groeso sy’n cynnig arweiniad llenyddol syml i’r cyfnod/ysgol farddol neu lenor. Mae is-safleoedd eraill ymroddedig i feirdd penodol megis Baudelaire, Verlaine, Rimbaud a.y.y.b. Mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o esboniadau llenyddol.
LiLi
Safle wedi ei chyflwyno i athrawon Ffrangeg ledled y byd. Mae’n gofyn am gofrestru ar eich ymweliad cyntaf ond wedyn gellir ei ddefnyddio am ddim. Gwiriwch y trefniadau cofrestru.
The ARTFL Project
Mae’r safle yn cynnwys casgliad pwysig o bron 2000 o destunau Llenyddol Ffrengig, nifer ohonynt efo mynediad i danysgrifwyr yn unig. Fodd bynnag mae yma adran gyfeirio o bwys sy’n agored i’r cyhoedd. Mae hon yn cynnwys geiriadur [Le Tresor de la Langue Française, sydd ar-lein i’r cyhoedd] a chyfleusterau gramadeg.