Ffynonellau Cwricwlwm > Daearyddiaeth

Daearyddiaeth

Cylchgrawn Gwaith Maes ar-lein
Y mae Cymdeithas Gwaith Maes yn hyrwyddo gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o’r amgylchedd trwy ei astudio, a thrwy rannu gwybodaeth a phrofiad ohono. Ynghlwm wrth hyn mae’r gred fod diwylliant, hanes a iaith yn rhan annatod o’r gwerthfawrogiad, fel y mae dulliau gwyddonol yn hanfodol i’r ddealltwriaeth.

Geographical Association
Yn darparu cysylltiadau â nifer o safleoedd pwysig yn y DG, yn cynnwys Prifysgol, sefydliadol ac AALl

Geography Network
Mae’n cynnwys nifer mawr o raglenni map, yn defnyddio’r dull mapio rhyngweithiol ArcExplorer. Gellir chwilio’r system yn hawdd ac mae’n cynnwys swm mawr o ddata i’w lawr lwythol.

Geography World
Mae’r safle yn cael ei gynnal gan athro unigol yn UDA. Mae’n enghraifft o’r hyn y gall un athro ei gyflawni. Mae wedi’i anelu at anghenion yr athro yn yr ystafell ddosbarth. Mae’n gweithredu fel strwythur ‘chwilio a logio’ sy’n rhoi mynediad i safleoedd arbenigol y mae ef yn eu defnyddio wrth ddysgu yn Ysgol Uwchradd Lakeland ym Mhennsylvania. Mae hefyd yn cynnwys adran o ‘gemau’, cwisiau, posau a manion y gellir eu defnyddio.

National Geographic
Safle adnabyddus iawn sy’n cynnig defnydd defnyddiol ar gyfer yr athro daearyddiaeth. Mae’n fawr iawn, ond yn hawdd ei lywio. Mae adran sy’n benodol ar gyfer athrawon [y gellir cael mynediad iddi o’r ddalen gartref] ac sy’n ddefnyddiol iawn. Mae’n cynnwys cynlluniau ar gyfer gwersi, mapiau ‘ar-lein’, gweithlyfrau a gwaith ar daflunydd tros-ysgwydd, y gellir eu lawr lwytho neu eu defnyddio ‘ar-lein’. Yn ddiwylliannol mae’n Americanaidd o ran deunyddiau maes llafur, ond maent yn hawdd eu haddasu ar gyfer y cyd-destun Prydeinig, yn arbennig ym maes deunyddiau cefndir a ffyrdd o gyfoethogi gwersi.

Royal Geographical Society
Safle adnabyddus iawn sy’n cynnwys is-set addysgol. O fewn yr is-set yna ceir safleoedd yn gysylltiedig â Ffynonellau Dysgu Daearyddiaeth ac Addysg [mae’r ail yn newydd ac wrthi’n cael ei adeiladu’n awr].

Yahoo Geography
Mae Yahoo yn cynnal safle bychan sy’n rhoi mynediad i nifer o wefannau, yn y DU ac ar y cyfandir, sy’n storio defnyddiau dysgu y gellir eu lawr lwytho.