Llyfrgelloedd
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o brif lyfrgelloeddy byd. Ers 1911 mae wedi mwynhau yr hawl i gasglu, heb dalu, gopi o bob gwaith printiedig ym Mhrydain ac Iwerddon. At hyn mae ganddi gasgliad enfawr o weithiau ar Gymru a’r gwledydd Celtaidd eraill: llyfrau a phamffledi, cylchgronau a phapaurau newydd, microffilmiau, effemera yn ogystal â chyfoeth o ddeunydd electronig.
Casgliad Delweddau Symudol Llyfrgell GenedlaetholCymru
Mae Casgliad Delweddau Symudol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ffurf ffilm a fideo ac yn cynnig adnodd helaeth ar gyfer ymchwil ar bob agwedd o fywyd Cymreig. Mae wedi ei ddosbarthu o dan ffilmiau, fideos cyhoeddiedig a fideos anghyhoeddiedig.
Casgliad Ffotograffiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Er ei sefydlu yn 1907 mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn casglu ffotograffau, gan ganolbwyntio ar luniau sy’n dogfennu pobl a lleoedd yng Nghymru neu fywyd Cymreig yn gyffredinol. Mae’r casgliad bellach yn cynnwys tua 750,000 o ddelweddau yn dyddio o ddyddiau cynnar ffotograffiaeth hyd at heddiw. Dyma’r casgliad mwyaf a’r cyfoethocaf o ffotograffau Cymreig mewn bodolaeth ac mae’n cynrychioli sail i Archifdy Ffotograffau Cenedlaethol Cymru. Gellir gweld y ffotograffau gan ddarllenwyr awdurdodedig yn y Llyfrgell. Ni ellir eu benthyca ond gellir cynhyrchu copïau ar gyfer y rhan fwyaf o ddibenion.
Casgliad Dylan Thomas
Rhan o safle Llyfrgell Abertawe a gyflwynwyd i Dylan Thomas ac yn cyflwyno Casgliad Dylan Thomas. Mae’n cynnwys Llwybr Dylan Thomas.
www.herywe.org.uk
Dyma safle newydd a difyr i blant oed Cynradd gan Wasanaeth Llyfrgell Gwynedd mewn partneriaeth gyda Cynnal a Gwasanaeth Llyfrgell Ynys Môn trwy nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r safle hwn yn cynnwys gemau, lincs i safleoedd difyr a hwyliog ar gyfer plant a gwybodaeth ddifyr am awduron, llyfrau a darllen. Bwriad y safle - sy'n cynnig mynediad yn Gymraeg neu'n Saesneg - yw dysgu plant sut i ddefnyddio eu Gwasanaethau Llyfrgell, tra'n cynnig gweithgarwch diogel a hwyliog i'w wneud tra'n defnyddio'r Rhyngrwyd. Mae yma ddigon i'w cadw'n ddiddig wrth hamddena neu chwilio am safleoedd a all eu helpu gyda gwaith cartref.