Adref > Cymorth > Llwytho adnoddau i lawr a dadsipio ffeiliau.

Llwytho adnoddau i lawr a dadsipio ffeiliau.

Llwytho i lawr o GCaD Cymru - trosolwg
Mae’r gwaith o wneud yr holl adnoddau ar GCaD Cymru yn addas i’w llwytho i lawr yn parhau.  Gorau oll os gellir defnyddio'r adnoddau ar eich cyfrifiadur yn lleol heb orfod dibynnu ar gyswllt cyflym dibynadwy a’r rhyngrwyd,  Er mwyn gwneud hyn byddwn yn sipio'r cyfan i un ffeil sydd yn rhaid ichi ei llwytho i lawr i ddisg galed eich cyfrifiadur.  Wedi gwneud hynny rhaid agor y ffeil sip cyn ei defnyddio.

Sut i lawr lwytho a pharatoi ffeiliau i’w defnyddio?

  • Mae’r cyswllt i’r ffeil sip i’w llwytho i lawr i’w ganfod ar dudalen flaen yr adnodd, yn aml tua gwaelod y dudalen.
  • Rhaid cadw’r (arbed) ffeil yma ar eich disg galed:
    • Ar gyfrifiadur sydd yn rhedeg Windows® cliciwch fotwm dde'r llygoden a dewis 'Save target as...'
    • Ar gyfrifiadur Mac® , <Ctrl>+clic ac yna dewis i gadw,
  • Wedi cadw’r ffeil sip ar eich cyfrifiadur yna rhaid ei dadsipio. Ni fydd yr adnodd yn gweithio heb ddadsipio y ffeil. Dilynwch gyfarwyddiadau eich meddalwedd ar gyfer dadsipio.
  • Gallwch ddefnyddio amryw o raglenni ar gyfer dadsipio. Mae Windows® XP yn cynnwys rhaglen sydd yn gwneud y gwaith yma ac mi gewch gyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn adran Cymorth ('Help and Support') y meddalwedd. Teipiwch "extracting files" yn y blwch chwilio ac mi fydd y cyfarwyddiadau yn ymddangos ar y sgrin.
  • Rhaglenni eraill sydd yn dadsipio yw Winzip and Winrar. Gallwch gael mwy o wybodaeth amdanynt trwy chwilio ar y we am "zip files" gyda’ch peiriant chwilio.
  • Unwaith mae’r ffeiliau wedi eu dadsipio gallwch ddefnyddio’r adnoddau. Chwiliwch am ffeil sydd ag enw megis 'Start Here' a fydd yn tanio’r uned ac yn caniatáu ichi ddefnyddio'r adnodd yn union fel petaech yn dal i fod ar lein.


Cymorth cam wrth gam – llwytho ffeiliau sip i lawr

Cymorth cam wrth gam – llwytho ffeiliau .exe i lawr


Rwyf wedi dilyn y cyfarwyddiadau ond nid yw’r adnodd yn gweithio.
Yn yr achos yma cysylltwch a ni cyn gynted ag sydd modd a gadael i ni wybod pa adnodd sydd yn peri pryder ichi.

Nid ydym yn cynnig cefnogaeth technegol cyffredinol nac yn cynnig cyngor ar ddatrus problemau technegol gyda caledwedd.