Hygyrchedd
Mae GCaD Cymru yn ymdrechu i gydymffurfio gyda phob nod hygyrchedd ar gyfer Blaenoriaeth 1 mewn perthynas â’r holl ddeunydd sydd gennym ar y We, yn ôl gofynion Consortiwm y We Fyd Eang (W3C) a Menter Hygyrchedd y We (WAI). Mae WAI yn hybu elfen gref o ddefnyddioldeb ar gyfer y rhai hynny sydd ag anableddau. Mae W3C yn hyrwyddo arfer da ymysg cymuned y We gyda mentrau megis WAI (http://www.w3.org/WAI/) Canllawiau Hygyrchedd Cyswllt y We 1.0.
Ar hyn o bryd rydym yn ystyried nodau hygyrchedd Blaenoriaeth 2 yng ngofynion WA1 fel bod GCaD Cymru yn cyflawni statws A dwbl ar gyfer hygyrchedd. Yn y cyfamser mae GCaD Cymru wedi cymryd camau i hyrwyddo hygyrchedd y wefan a’r cynnwys yn bennaf trwy sicrhau y gellir defnyddio’r safle er bod yr arddull (Style) wedi ei ddiffodd yn y porwr.
Mae GCaD Cymru hefyd wedi darparu fersiwn ‘Mynediad hawdd’ o’r safle sydd yn anwybyddu unrhyw luniau diangen ac sy’n cynrychioli cynnwys y dudalen, gan flaenoriaethu cynnwys o’r brig i lawr, er mwyn gwella’r profiad o ddefnyddio’r wefan gyda darllenwyr sgrin a thechnolegau eraill.
Efallai na fydd rhai o’n tudalennau hynaf yn cydymffurfio a’r gofynion hyn ond byddwn yn gweithio i sicrhau y bydd pob tudalen gwe a ddyblygir o’r newydd yn cydymffurfio a chanllawiau hygyrchedd W3C.
Wrth ddylunio’r wefan rhoddwyd ystyriaeth i’r canllawiau hygyrchedd canlynol:
- Dyluniwyd y tudalennau fel bod modd eu gweld ar gydraniad sgrin 800 x 600 picsel.
- Bod strwythur y dudalen yn amlwg o’r elfennau pennyn.
- Y defnydd o ddalennau arddull gyda maint ffont perthynol ar yr holl destun, ar wahan i’r testun graffig.
- Gellir newid maint y ffont trwy ddefnyddio “view” yn eich dewisiadau porwr.
- Bydd delweddau sydd yn cyfleu gwybodaeth bwysig yn cynnwys testun ychwanegol. Ni fydd testun ychwanegol gyda’r delweddau hynny sydd i ddibenion addurniadol yn unig.
- Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei gyfleu gyda lliw yn unig.
- Bydd map o’r wefan ar gael sydd yn rhoi trosolwg o’r strwythur.
I dderbyn mwy o wybodaeth, neu os oes problemau o ran mynediad at GCaD Cymru yna cysylltwch gyda ni ar gwybodaeth@gcad-cymru.org.uk neu trwy ffonio 029 20265177.