Adnoddau Addysgu > ADY (AAA) > Llythrennedd

Llythrennedd

Defnyddiau Gwers

Cyfres o storïau rhyngweithiol sydd yn annog y dysgwyr i ystyried sut y gall stori newid wrth ei dweud o safbwynt cymeriad arall (GCaD Cymru)
Cyfres o storïau rhyngweithiol sydd yn annog y dysgwyr i ystyried sut y gall stori newid wrth ei dweud o safbwynt cymeriad arall (GCaD Cymru)
Cyfres o storïau rhyngweithiol sy’n caniatáu i’r darllenydd reoli hynt a helynt y stori (GCaD Cymru)
Dis sy’n caniatáu i’r disgyblion ddarllen, dadansoddi ac ysgrifennu storïau mewn chwe ffurf (genre) gwahanol (GCaD Cymru)
Gweithgaredd rhyngweithiol sy’n defnyddio lluniau i sbarduno ysgrifennu creadigol (GCaD Cymru)
Adnoddau rhyngweithiol ar gyfer disgyblion gydag anawsterau dysgu ychwanegol (ADY) i ddatblygu llafaredd a sgiliau llythrennedd drwy gyfrwng gweithgareddau hanesyddol sy’n canolbwyntio ar hanes Dewi Sant.
Cyfres o weithgareddau i gefnogi llyfrau darllen sydd yn cyflwyno strwythur ffonolegol a geiriau allweddol. (Prosiect Addysg Cymraeg Wrecsam - PACW)
Adnodd rhyngweithiol Clicker ar y thema ‘Fi Fy Hun’. Fe’i addaswyd ar gyfer disgyblion gydag anawsterau dysgu ychwanegol (ADY), i ddatblygu eu sgiliau adeiladu brawddegau a thrwy hynny i greu darn o ysgrifennu hunangofiannol syml.(Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Llyfr llafar ar-sgrîn syml ar y thema ‘Teithio’ yw'r gyfres hon o gridiau rhyngweithiol Clicker. Ynddo trafodir gwahanol ddulliau o deithio o le i le. (Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Adnoddau rhyngweithiol Clicker sy’n cymell disgyblion i adeiladu brawddegau syml am wahanol fathau o fwyd.(Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Adnodd rhyngweithiol Clicker 5 sy’n cynnig ymarfer ar adnabod ac enwi amrywiol ffrwythau trwy weithgaredd labelu lluniau.(Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Adnodd Clicker rhyngweithiol i gynorthwyo disgyblion i adeiladu brawddegau syml sy'n mynegi eu hoffter neu eu diffyg hoffter o fwydydd.(Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Llyfr llafar ar-sgrîn ar gyfer disgyblion gydag anawsterau dysgu ychwanegol (ADY), i ddatblygu sgiliau llythrennedd drwy gyfrwng gweithgaredd sy’n canolbwyntio ar y thema Teithio. Fersiwn wahaniaethol o Cerbydau..(Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Cyfres ryngweithiol o gridiau Clicker wedi'i chreu i gynorthwyo disgyblion i ystyried pethau y gallent eu gweld mewn tref a phethau y gallent eu gweld yn y wlad.(Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Llyfr llafar ar-sgrîn ar gyfer disgyblion gydag anawsterau dysgu ychwanegol (ADY), i ddatblygu sgiliau llythrennedd drwy gyfrwng gweithgaredd sy’n canolbwyntio ar y thema Teithio. (Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Llyfr llafar ar-sgrîn yn cynnwys posau am anifeiliaid gwyllt yw’r adnodd hwn. (Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Adnoddau rhyngweithiol Clicker 5 ar y thema ‘Cartrefi’ - yn cynnwys llyfr llafar a gridiau ysgrifennu cysylltiol i greu llyfr llafar personol. (Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Adnoddau rhyngweithiol Clicker ar y thema ‘Ar y Fferm’ yn cynnwys llyfr llafar ar-sgrîn syml a chyfres o gridiau adeiladu brawddegau cysylltiol.(Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Adnoddau rhyngweithiol Clicker 5 am weithgareddau yn yr ysgol ac yn ymarfer y patrwm brawddegol 'Rydw i yn hoffi'. Mae’n cynnwys llyfr llafar syml a gridiau ysgrifennu cysylltiol sy’n galluogi disgyblion i greu eu fersiwn eu hunain o'r llyfr. (Nêst Tudur Efans / Cynnal)