Adnoddau Addysgu > CA2 > Cymraeg

Cymraeg

Defnyddiau Gwers

Adnodd cynhwysfawr a lliwgar ar gyfer dysgu barddoniaeth yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3. Mae’r pecyn yn rhoi sylw i’r elfennau pwysig sy’n perthyn i farddoniaeth megis delweddu, cyflythrennu, odli a mesurau. Mae yma hefyd uned gynhwysfawr sy’n cyflwyno’r gynghanedd yn ddigidol. (Datblygwyd gan GCaD Cymru a noddwyd gan Lywodraeth Cymru)
Cyflwyniadau a gemau sy’n gymorth i ddysgu sut i greu cynganeddion. (Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones)
Dyma adnodd cynhwysfawr a deniadol sydd yn cyflwyno Chwedl Llyn y Fan drwy gyfrwng llyfr llafar, gweithgareddau rhyngweithiol, a gweithgareddau papur ychwanegol sydd yn cyfateb â'r 5 rhan neilltuol o fewn y pecyn hwn. (Athrawon Bro Sir Gaerfyrddin a GCaD Cymru)
Dyma adnodd cynhwysfawr sydd yn cynnwys cyflwyniad lliwgar a rhyngweithiol i bob llythyren o'r wyddor Gymraeg. Mae yno gymeriad i bob llythyren, stori y gellir ei darllen a gwrando arni, cyfres o animeiddiadau yn gefndir i’r stori, wal eirfa y gellir ei defnyddio i wrando ar eiriau gwahanol a chân syml unsain gyda cyfeiliant.(GCaD Cymru)
Casgliad o adnoddau lliwgar a deniadol ar gyfer datblygu iaith dysgwyr sydd yn canolbwyntio ar holi cwestiynau (Gwaith awduro gan Telesgop a chomisiynwyd gan APADGOS)
Cylchgrawn addysgol sy'n llawn darnau a gweithgareddau diddorol ac ysgogol ar gyfer disgyblion iaith gyntaf CA2.
Adnodd rhyngweithiol i ddatblygu dealltwriaeth o rai o briod-ddulliau’r Gymraeg..(Nêst Tudur Efans / Cynnal)
Mae'r pecyn hwn yn cynnig toreth o syniadau o ran datblygu llafaredd yn CA2. Mae sylw yma i ddulliau cyflwyno iaith ynghyd ag ymarferion ymarfer iaith sy'n arwain at gynnig enghreifftiau o gyfathrebu mwy rhydd.